Yn unol â thema'r gynhadledd sef "Datblygu'ch cymuned", canolbwyntiodd prif araith y Gweinidog ar sut gall cynghorau gyfrannu at feithrin cymunedau cryf.
Meddai:
"Mae cydlyniant cymunedol yn dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru. Oherwydd hyn rydym yn datblygu Strategaeth Cydlyniant Cymunedol i gefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid, gan gynnwys cynghorau cymuned a thref, i wynebu heriau newidiadau yn ein cymunedau.
"Mae gan bob cymuned yng Nghymru eu nodweddion eu hunain, ac mae nifer o wahanol ffactorau wedi dylanwadu arnynt. Nid yw rhai ohonynt wedi newid llawer ers blynyddoedd, ond yn fwy diweddar, maent wedi gorfod ymdopi ag ymfudwyr economaidd sydd wedi dod i fyw a gweithio yno. Efallai y bydd gan gymunedau eraill flaenoriaethau cydlyniant sy'n ymwneud ag effaith tlodi ac amddifadedd. Mae rhai cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gorfod ymdopi â mwy o ymfudo i mewn ac allan.
"Mae cynghorau cymuned a thref mewn safle delfrydol i fod yn ymwybodol o faterion lleol a helpu i fonitro tensiwn. Gallant ymgysylltu ag ystod o grwpiau cymunedol a phontio rhwng grwpiau. Gall cynghorau lleol helpu i fapio cymunedau - gan gynorthwyo awdurdodau lleol i greu darlun manylach o bwy sy'n byw yn y gymuned a beth sy'n peri pryder iddynt.
"Mae materion sy'n effeithio ar gydlyniant cymunedol yn amrywio o gymuned i gymuned ac felly cynrychiolwyr y gymuned ei hun sy'n deall ei hanghenion orau. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cydweithio i sicrhau'r dyfodol gorau posibl i'n cymunedau".
10 Hydref 2009











