Nid codi mwy o arian mo diben yr ailbrisio. Yn hytrach ei ddiben yw ailddosbarthu’r trethi sydd angen eu talu rhwng yr holl eiddo yn unol â’u gwerth cymharol ar adeg yr ailbrisio. Yn sgil yr ailbrisio, bydd rhai biliau’n codi a rhai yn gostwng.
Bydd dros 60% o fusnesau yn elwa gan y bydd eu biliau yn gostwng yn sgil yr ailbrisio a phenderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ostwng y lluosydd sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo biliau trethi busnes o 0.489 i 0.409.
Meddai Carl Sargeant:
“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu busnesau trwy’r trafferthion economaidd presennol, ac mae’n bwysig ein bod yn helpu’r rhai sy’n wynebu biliau uwch yn sgil yr ailbrisio.
“Fodd bynnag, rydym yn gwybod na fyddai llawer o groeso i gynllun pontio fel yr un sydd ar waith yn Lloegr, gan y byddai hwnnw’n cymryd arian oddiwrth y busnesau sy’n dioddef fwyaf yn sgil y dirwasgiad er mwyn capio codiadau yn y dreth i fusnesau sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus.
“Rwyf wedi gwrando ar bryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Twristiaeth Cymru. Maen nhw wedi dweud wrthyf y byddent yn croesawu cynnydd yn nhrothwyon uchaf cymorth y dreth i fusnesau bach.
“Fy mwriad yw cyflwyno pecyn cymorth y dreth i fusnesau yng Nghymru a fydd yn codi’r terfynau uchaf o leiaf 20% ym mhob categori. Dyma derfynau uchaf y gwerth ardrethol ar gyfer pob categori o gymorth:
- terfyn uchaf y gwerth ardrethol yn codi o £2,000 i £2,400 ar gyfer cael 50% cymorth y dreth cyffredinol
- terfyn uchaf y gwerth ardrethol yn codi o £6,500 i £7,800 ar gyfer cael 25% o gymorth y dreth cyffredinol
- terfyn uchaf y gwerth ardrethol yn codi o £9,000 i £11,000 ar gyfer cael 25% o gymorth y dreth manwerthu.
“Bydd y mesurau a gafodd eu cyhoeddi gennyf heddiw yn golygu y gallai dros hanner y safleoedd busnes yng Nghymru fod yn gymwys o fis Ebrill nesaf ymlaen. Hefyd, yn unol ag adroddiad rhag-gyllidebol y Canghellor, bydd trothwy gwerth ardrethol adeiladau gwag yng Nghymru iddynt gael eu heithrio rhag gorfod talu ardrethi annomestig yn codi o £15,000 i £18,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
"Mae’r pecyn hwn o gymorth y dreth ychwanegol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i roi cymorth gwirioneddol i fusnesau bach i’w helpu trwy’r cyni economaidd presennol.”
Meddai Janet Jones, Cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru:
“Bydd codi trothwyon Cymorth y Dreth i fusnesau bach fel hyn yn cael ei weld fel anrheg Nadolig cynnar gan lawer o fusnesau Cymru.
“Mae Ardrethi Annomestig yn fwy o faich ar fusnesau bach, a chan fod Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i leddfu effaith yr ailbrisio ar fusnesau, rydym yn croesawu’r ffaith ei fod wedi codi’r trothwyon i sicrhau bod mwy o fusnesau yn cael cymorth y dreth. Gyda’r lleihad yn y lluosydd, ein gobaith yw y bydd hyn i gyd yn gryn help i lawer o’n busnesau bach.”
22 Rhagfyr 2009











