Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cyhoeddi deddfwriaeth newydd i gau bwlch yn y rheolau trethi busnes

Heddiw, (10 Mawrth 2010), cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant ddeddfwriaeth i sicrhau nad yw perchnogion eiddo sydd gan mwyaf yn wag neu sy’n cael ei ddefnyddio fel ail gartref yn cael manteisio ar fwlch yn y rheolau trethi sy’n caniatáu iddynt dalu llai o dreth ar eu heiddo trwy dalu trethi busnes yn lle treth gyngor.
Dydd Mercher 10 Mawrth 2010

O dan y rheolau newydd, rhaid i’r adeilad fod wedi’i osod ar rent am o leiaf 70 diwrnod yn y 12 mis blaenorol cyn i’r perchennog gael talu trethi busnes yn lle treth gyngor.

Yn aml, mae trethi busnes ar gyfer y math hwn o eiddo cryn dipyn yn llai na threth cyngor, ac felly mae’r rheolau newydd yn rhwystro’r perchennog rhag osgoi talu’r dreth lawn trwy ddatgan bod yr eiddo ar gael i’w rentu ond ar yr un pryd yn gwneud fawr ddim ymdrech i’w roi ar osod.

Gall adeiladau sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn gael effaith andwyol ar y gymuned leol gan nad oes neb ynddyn nhw i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau lleol a chyfrannu at y gymuned. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynd ran o’r ffordd i atal hynny, er nad yw’n effeithio ar eiddo masnachol sy’n cael ei osod am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn.

Meddai Carl Sargeant:

“Mae angen y rheolau hyn i gau bwlch y gellir ei ddefnyddio i osgoi talu trethi, ond ar yr un pryd, nid yw’n effeithio’n andwyol ar drethi busnesau go iawn.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod pa mor bwysig yw sector twristiaeth ffyniannus i economi Cymru. Mae dros 95% o’r llety hunanddarpar sy’n gymwys i dalu trethi busnes yn manteisio ar gymorth y dreth sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad, gyda’r rhan fwyaf yn talu llai na £10 o dreth yr wythnos.”

10 Mawrth 2010

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ardrethi Annomestig (busnes)

Tagiau

Llywodraeth leol 10 Mawrth 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i