Bydd yr adolygiad yn ystyried pa wasanaethau y dylid eu darparu, ac ym mhle - yn lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol.
Meddai Carl Sargeant
“Yn ystod toriad yr haf, es i ar daith drwy Gymru i ofyn i weithwyr rheng flaen, gwirfoddolwyr a dinasyddion roi eu sylwadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Roedd pob ymweliad yn dangos i mi’n glir y dylen ni fod yn ddiolchgar iawn i’r bobl hynny, yn weithwyr awdurdodau lleol ac yn wirfoddolwyr, sy’n darparu ein gwasanaethau. Hoffwn i ganmol pob un ohonyn nhw am eu hymrwymiad, eu hegni a’u brwdfrydedd parhaol.
“Gwelais i lu o enghreifftiau o arloesedd ac arfer da, ond yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rhaid mynd yn bellach fyth.
“Mae dau ar hugain o awdurdodau lleol yng Nghymru, ac maen nhw i gyd yn darparu’r un gwasanaethau. Rhaid ystyried a oes ganddyn nhw’r capasiti i wneud hyn, ac a fyddai modd darparu rhai gwasanaethau ar raddfa ehangach.
“Bydd f’adolygiad yn edrych ar y cyfleoedd i awdurdodau lleol weithio ar y cyd, gan ofyn hefyd a ddylid darparu gwasanaethau ar lefel ranbarthol neu drwy un corff cenedlaethol.
“Does dim diben newid er mwyn newid, ond dw i’n awyddus i ni gael model clir ar gyfer darparu gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru. Fy man cychwyn wrth ystyried hyn yw gofyn sut gallwn ni wella’r gwasanaethau i bobl Cymru? Ac wrth gwrs yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, sut gallwn ni arbed arian?
“I helpu awdurdodau lleol i ddod o hyd i gyfleoedd i newid gwasanaethau, dw i’n comisiynu adolygiad annibynnol i ddatblygu fframwaith cliriach ar gyfer darparu gwasanaethau.“
Bydd darparwyr gwasanaeth, Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru (SOLACE) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr adolygiad. Cyhoeddir adroddiad o gwmpas adeg y Nadolig.











