Mae’r addewid yn adlewyrchu ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i amddiffyn ysgolion er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i blant Cymru a hefyd i amddiffyn pobl fwyaf bregus ein cymdeithas yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Wrth gyhoeddi manylion y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y tair blynedd nesaf, dywedodd y Gweinidog bod y cyllid hwn o ychydig dros £4 biliwn, a fydd yn cael ei roi i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf, yn cynrychioli 1.4% o ostyngiad ar yr hyn a roddwyd iddyn nhw y llynedd, ar ôl ystyried trosglwyddiadau grant. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau ar gyfer 2012-13 a 2013-14 yn golygu y bydd cynnydd 0.2% ac 1.3%, yn y drefn honno.
Meddai Carl Sargeant
“Mae’r arian yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn dipyn o her oherwydd y gostyngiadau mawr a orfodwyd ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Lywodraeth San Steffan.
“Fodd bynnag, mae’n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad o ran amddiffyn ysgolion a gofal cymdeithasol, ac mae’n deg o ystyried yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.
“Dw i’n cynyddu’r arian a roddir i awdurdodau lleol dros y cyfnod o dair blynedd. Mae cynnydd hwn i’r gwrthwyneb yn llwyr i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, lle mae’r cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol yn gostwng 2.3% ar sail tebyg at ei debyg.
“Er mwyn diogelu awdurdodau lleol sy’n wynebu gostyngiad o dros 1.7% yn 2011-2012, dw i’n parhau â’r trefniadau ariannu gwaelodol. Bydd y rheini’n cynnal eu hunain yn ariannol, ac ar sail y setliad dros dro, bydd 10 o awdurdodau’n elwa ar y trefniadau hyn.
“Yn unol ag ymrwymiad Prif Weinidog Cymru i amddiffyn ysgolion, mae’r setliad yn cynnwys yr adnoddau i sicrhau £61 miliwn o gynnydd yn yr arian a roddir ar gyfer addysg dros y cyfnod o dair blynedd.
“Dw i hefyd yn anrhydeddu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i amddiffyn y bobl fregus yn ein cymdeithas yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd £35 miliwn ychwanegol yn cael ei roi dros y tair blynedd nesaf i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â’r pwysau sydd arnynt wrth geisio cynnal gwasanaethau hanfodol ar gyfer yr hen a’r ifanc.
“O ran y dreth gyngor, dw i’n rhoi £32 miliwn o fewn setliad y Grant Cynnal Refeniw sy’n gyfwerth â’r 2.5% sydd wedi’i ganiatáu gan Lywodraeth San Steffan at ddibenion rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Er fy mod yn rhoi cyllid cyfatebol, bydd yr awdurdodau lleol yn cael penderfynu drostynt eu hunain a ydyn nhw am ddefnyddio’r arian hwn i rewi’r dreth gyngor neu a ydyn nhw am ei wario ar wasanaethau. Bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol gyfiawnhau ei benderfyniad i’w ddinasyddion.
“Bydd ein hawdurdodau lleol yn gorfod gwneud llawer o benderfyniadau anodd. Parhau y mae’r her o ddarparu gwasanaethau o ansawdd da am lai o arian. Er bod tystiolaeth galonogol bod mwy o gydweithio’n digwydd ar draws gwasanaethau ac ar draws awdurdodau lleol, rhaid i awdurdodau lleol fod yn fwy uchelgeisiol o ran sicrhau mwy o newidiadau a’u sicrhau yn gynt os ydyn nhw am ymateb i’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu.
“Er mwyn ein helpu gyda hyn, dw i wedi comisiynu adolygiad i ystyried pa drefniadau fyddai orau o ran cyflenwi gwasanaethau yng Nghymru, a dw i’n edrych ymlaen at glywed y casgliadau cyntaf yn y flwyddyn newydd.“Bydd y setliad yn sbarduno rhagor o welliannau. Dw i’n ffyddiog y bydd rheolwyr awdurdod lleol, undebau llafur a’r rheini sy'n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau yn ymateb i’r her ac yn sicrhau canlyniadau i bobl Cymru.”











