Meddai Carl Sargeant:
“Dw i’n ymwybodol iawn bod y tywydd oer y gaeaf diwethaf wedi gadael tyllau yn ein ffyrdd a hefyd bod awdurdodau lleol wedi bod o dan bwysau wrth geisio eu graeanu. Mae’r difrod a gafodd ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw yn parhau’n destun pryder i drigolion lleol ac awdurdodau lleol.
“Er na allwn ragweld sut bydd y tywydd yn y dyfodol, mae’r rhew a’r eira diweddar yn awgrymu efallai bod gaeaf caled arall o’n blaenau.
“Mae’r arian yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw i’w ddefnyddio yn y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd yn helpu i leihau’r pwysau ariannol sydd ar yr awdurdodau lleol trwy sicrhau eu bod yn gallu ymateb yn gynnar i’r problemau a allai godi yn sgil cael gaeaf caled arall.
“Dw i’n gwybod bod awdurdodau lleol yn cynllunio’n ofalus er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i ymateb yn effeithiol i aeaf caled arall. Nhw sy’n gyfrifol am bennu eu blaenoriaethau o ran trwsio ffyrdd a phrynu halen.
Fodd bynnag, dw i’n disgwyl iddyn nhw roi blaenoriaeth i anghenion yr ifanc a phobl hŷn trwy sicrhau eu bod yn graeanu ardaloedd o gwmpas siopau lleol, ysgolion, clinigau, canolfannau cymunedol ac ati.”
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol maes o law i roi iddynt fanylion yr arian a roddir.











