Er mwyn gallu rhoi hyd yn oed mwy o amcanion Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad ar waith, mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn dyrannu oddeutu £4.5 miliwn o gyllid cyfalaf ac oddeutu £5.5 miliwn pellach o gyllid refeniw i awdurdodau lleol.
Dywedodd Carl Sargeant,
“Mae angen mawr am yr arian ychwanegol hwn a bydd yn helpu awdurdodau lleol i gynnal eu rhaglenni gwariant am y flwyddyn ariannol nesaf.
“Drwy ddefnyddio’r arian hwn i ariannu rhaglenni gwariant sydd eisoes ar waith, gallant ryddhau rhywfaint o adnoddau ar gyfer gwariant yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy’n ffyddiog y caiff yr adnoddau ychwanegol hyn rwy’n eu dyrannu er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau canol blwyddyn sylweddol iawn y mae gwasanaethau plant llywodraeth leol yn eu hwynebu yn cael eu croesawu. Dim ond trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau atal a gwasanaethau ymyrryd cynnar i blant sy’n agored i niwed y gallwn ni gadw teuluoedd gyda’i gilydd a lleihau’r angen am wasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd cysylltiedig.”











