Clywodd y Gweinidog gan y Comisiynwyr fod peth cynnydd wedi bod o ran cefnogi a gwella gallu corfforaethol y Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys creu pwyllgor gwaith cysgodol sy’n wleidyddol gytbwys a phenodi Richard Parry Jones yn Brif Weithredwr newydd.
Er hynny, mae’n ymddangos fod yna nifer fach o gynghorwyr nad ydynt wedi ymrwymo eto i ganolbwyntio ar y materion y mae angen i’r ynys ymdrin â hwy ar fyrder – adnewyddu economaidd a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae yna gyfrifoldeb ar yr holl aelodau i gefnogi’r broses adfer o hyd, fel y gellir dirwyn yr ymyrraeth i ben.
Wedi hynny, fe wnaeth y Gweinidog gyfarfod ag Arweinyddion y Grwpiau, a roddodd gefnogaeth unfrydol i ddull y Comisiynwyr o symud y Cyngor yn ei flaen, ac a fynegodd unwaith eto eu hymrwymiad i greu sefydlogrwydd gwleidyddol hirdymor ar yr ynys.
Cafwyd trafodaeth hefyd ar yr adolygiad cyfredol o’r ffiniau a gomisiynwyd gan y Gweinidog yn unol ag argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol. Nod yr adolygiad hwnnw yw gwella democratiaeth ar Ynys Môn, ond gan warchod ymreolaeth y Cyngor ar yr un pryd. Mae dyletswydd ar y Comisiwn Ffiniau i ymgynghori, felly bydd yna ddigon o gyfle i gynghorwyr a dinasyddion roi eu sylwadau ar yr adolygiad cyn i’r Gweinidog benderfynu’n derfynol.











