Cafodd y Compact ei argymell yn ystod Adolygiad Simpson o wasanaethau llywodraeth leol ei lofnodi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn sgil cyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r Compact yn nodi’r telerau ar gyfer dull newydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Ei nod yw cyflymu’r broses o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus drwy arweiniad cydweithredol cryf.
Diben y Compact yw darparu gwasanaethau mwy effeithiol, sy’n ymatebol yn lleol, i bobl Cymru yn y cyfnod economaidd heriol hwn. Mae’n cydnabod yn llawn y rôl hollbwysig y mae cynghorwyr lleol yn ei chwarae i wella gwasanaethau a sicrhau atebolrwydd democrataidd.
Mae’n darparu eglurder mewn perthynas ag amserlenni, ac atebolrwydd ar gyfer cyflawni’r newidiadau angenrheidiol. Y Cyngor Partneriaeth fydd yn cynnig yr arweiniad gwleidyddol ar gyfer adolygu’r hyn a gyflawnwyd ac yn llywio dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol:
“Mae’r hinsawdd economaidd anodd a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau wedi arwain at heriau sylweddol mewn perthynas â pherfformiad. Cydweithredu yw un o’r dulliau allweddol o ateb yr heriau hyn.
“Mae’r heriau ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yn annhebygol o leihau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae’n hanfodol rhoi’r newidiadau sylfaenol hyn ar waith yn gyflym, felly, er mwyn diogelu a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Compact yn symbol gweladwy o ymrwymiad Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i weithio mewn partneriaeth i gyflawni dros bobl Cymru.”
Ychwanegodd Steve Thomas, Prif Weithredwr CLlLC:
“Mae llofnodi’r Compact gan CLlLC ar lefel genedlaethol yn cynrychioli cyfnod newydd yn y berthynas rhwng y canolog a’r lleol. Trwy lofnodi’r cytundeb, mae CLlLC yn cefnogi’r Compact yn genedlaethol, ond mae’n hanfodol i’r Cynghorau unigol ei gadarnhau hefyd i ddangos eu hymrwymiad i’r dull newydd hwn yn lleol. Rwy’n disgwyl y bydd hynny’n digwydd yn ystod y misoedd nesaf.”











