Mae’r adroddiad ystadegol yn rhoi disgrifiad o nodweddion pob un o’r chwe ardal cydweithredu rhanbarthol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant yr haf diwethaf.
Mae’r adroddiad yn cynnwys nodweddion y boblogaeth ym mhob ardal: fel proffil oedran, dwysedd poblogaeth, cyflogaeth, a disgwyliad oes; yn ogystal â nodweddion yr ardaloedd: fel llif y traffig, lefelau’r troseddau a gofnodwyd, a’r cyflenwad o dai cymdeithasol sydd yno.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae diwallu anghenion cynyddol a chymhleth dinasyddion yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn gofyn am newidiadau sylfaenol yn gyflym. Nid yw’r arian na’r gallu gennym i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu, oni bai ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd.
"Bydd gwybod am anghenion a sefyllfaoedd pobl y mae’r awdurdodau lleol ac eraill yn eu gwasanaethu yn helpu i sicrhau y bydd y cydweithredu rhanbarthol yn ateb yr anghenion hynny. Mae ein patrwm ar gyfer cydweithredu rhwng gwasanaethau cyhoeddus yn golygu y byddwn yn cydweithio ar sylfaen mwy cadarn a thymor hir, fel bod ein partneriaid yn gallu bwrw iddi gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel ar hyd a lled Cymru."
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Rwy’n falch ein bod ni’n gwneud cynnydd wrth roi rhaglen weithredu ymarferol ar waith a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell, er bod heriau ariannol yn parhau.
"Mae’r Compact ar gyfer Newid yr ydym wedi cytuno arno gyda Llywodraeth Leol yn gosod rhaglen glir ar gyfer newid, a hynny ar y cyd. Mae’r rhaglen yn un sy’n cefnogi darparu gwasanaethau ar sail patrwm rhanbarthol, lle bo hynny’n ateb dibenion pobl Cymru orau."











