Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi data a fydd yn helpu Gwasanaethau Lleol i Gydweithredu

Cyhoeddwyd data a fydd yn helpu’r gwasanaethau cyhoeddus i weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau lleol sy’n diwallu anghenion unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Dydd Iau 29 Mawrth 2012

Mae’r adroddiad ystadegol yn rhoi disgrifiad o nodweddion pob un o’r chwe ardal cydweithredu rhanbarthol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant yr haf diwethaf.  

Mae’r adroddiad yn cynnwys nodweddion y boblogaeth ym mhob ardal: fel proffil oedran, dwysedd poblogaeth, cyflogaeth, a disgwyliad oes; yn ogystal â nodweddion yr ardaloedd: fel llif y traffig, lefelau’r troseddau a gofnodwyd, a’r cyflenwad o dai cymdeithasol sydd yno.

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae diwallu anghenion cynyddol a chymhleth dinasyddion yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn gofyn am newidiadau sylfaenol yn gyflym.  Nid yw’r arian na’r gallu gennym i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn eu haeddu, oni bai ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd.

"Bydd gwybod am anghenion a sefyllfaoedd pobl y mae’r awdurdodau lleol ac eraill yn eu gwasanaethu yn helpu i sicrhau y bydd y cydweithredu rhanbarthol yn ateb yr anghenion hynny.  Mae ein patrwm ar gyfer cydweithredu rhwng gwasanaethau cyhoeddus yn golygu y byddwn yn cydweithio ar sylfaen mwy cadarn a thymor hir, fel bod ein partneriaid yn gallu bwrw iddi gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel ar hyd a lled Cymru."  

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rwy’n falch ein bod ni’n gwneud cynnydd wrth roi rhaglen weithredu ymarferol ar waith a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell, er bod heriau ariannol yn parhau.

"Mae’r Compact ar gyfer Newid yr ydym wedi cytuno arno gyda Llywodraeth Leol yn gosod rhaglen glir ar gyfer newid, a hynny ar y cyd.  Mae’r rhaglen yn un sy’n cefnogi darparu gwasanaethau ar sail patrwm rhanbarthol, lle bo hynny’n ateb dibenion pobl Cymru orau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Patrwm Cydweithredu Rhanbarthol 2012

Tagiau

Llywodraeth leol 29 Mawrth 2012 Programme for Government - Public Services Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mawrth 2012
Ll M M I G S S
<< Chw   Ebr >>
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31  
I'n dilyn ni trowch i