Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn gofyn i Gynghorwyr o bob cwr o Gymru ymrwymo i wir bartneriaeth

Yn ei araith gyntaf i aelodau etholedig ers etholiadau’r Cynghorau y mis diwethaf, mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol, wedi galw ar gynghorwyr o bob cwr o Gymru i ymrwymo i ddiwylliant o wir bartneriaeth.
Dydd Iau 14 Mehefin 2012

Wrth siarad yng Nghaerdydd yn y cyntaf o bedwar digwyddiad rhanbarthol yn y gogledd, y de, y dwyrain a’r gorllewin, llongyfarchodd y Gweinidog yr holl aelodau ar gael eu hethol. Ond fe'u rhybuddiodd na fydd cynnal y gwasanaethau cyhoeddus yn waith hawdd yn yr hinsawdd sydd ohoni.  

Dywedodd y Gweinidog:

"Er bod pob un ohonom wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl Cymru’r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib, rhaid inni weithio gyda’n gilydd yn fwy effeithiol neu fe fyddwn yn siomi pobl Cymru.  

"Rhaid i aelodau etholedig fod yn barod i weithio mewn ffyrdd newydd fel ein bod yn darparu’r gwasanaethau gorau ac yn ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu – tlodi, cyrhaeddiad addysgol, gwella iechyd, diogelu cymunedau a sicrhau bod ein pobl hŷn yn gallu byw bywydau urddasol a boddhaus.  

"Rwyf am weld Cymru yn cael ei chydnabod drwy’r byd am ei hangerdd a’i hymrwymiad i waith partneriaeth effeithiol sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus uchel eu safon, effeithiol ac effeithlon."

Pwysleisiodd y Gweinidog bod rhaid gweithredu, er gwaethaf heriau’r hinsawdd ariannol bresennol. Dywedodd:

"Gwyddom fod yna ddulliau o gydweithio a all arwain at arbedion a darparu gwell gwasanaethau. Nid yw gwneud pethau ddwy ar hugain o weithiau yn gwneud synnwyr mewn gwlad fechan, ac ni allwn fforddio gwneud hynny.  

"Mae fy agenda ddiwygio yn un uchelgeisiol. Rhaid i bethau newid yn gyflymach ac mae angen i aelodau etholedig ddeall mai’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu fydd ar eu colled os nad ydyn nhw’n ymroi i’r agenda hon.

"Rhaid i bob awdurdod lleol fynd ati o ddifri i chwilio am y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau, ac ymhle i’w darparu. Efallai mai trefniadau lleol fydd orau ambell dro, yn aml bydd trefniadau rhanbarthol ehangach yn fwy addas, ac ar adegau eraill, dull cenedlaethol fydd yn gweddu orau.

"Er y gallai gwasanaethau gael eu darparu mewn ffordd wahanol, mae aelodau etholedig yn dal yn atebol am eu safon a’u heffeithiolrwydd. Mae angen tystiolaeth gadarn ar Gynghorwyr i ategu hyn, ac er bod toreth o ddata am berfformiad ar gael, mae angen ei gyflwyno mewn ffordd sy’n dangos yr hyn y mae’n rhesymol i bobl ei ddisgwyl oddi wrth wasanaethau lleol.

"Byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth gymharol cyn hir felly, er mwyn disgrifio’r hyn y mae’n rhesymol i bobl ei ddisgwyl a’r ffordd y mae perfformiad pob awdurdod yn cymharu â’r disgwyliadau hynny.  

"Mae angen i bob un ohonom ymdrechu i’r eithaf dros bobl Cymru, ac maen nhw’n haeddu hynny hefyd. Trwy weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu gallwn ni, fel arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus, wneud gwahaniaeth mawr."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llywodraeth leol

Tagiau

Llywodraeth leol 14 Mehefin 2012 Programme for Government - Public Services Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i