Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Chwilio am yr Eiriolwr Cyntaf dros Bobl Hŷn

Heddiw, byddwn gam yn nes at benodi’r eiriolwr cyntaf erioed dros bobl hŷn, wrth gyhoeddi hysbysebion sy’n gwahodd ceisiadau am Gomisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru.
Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2007

Chwilio am yr Eiriolwr Cyntaf dros Bobl Hŷn

Bydd y Comisiynydd yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, ar bob lefel, yn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posibl i bobl hŷn, gan eu helpu i fyw bywyd i’r eithaf a sicrhau eu bod yn ddinasyddion sy’n cymryd rhan lawn yn y gymdeithas.

Credir mai hon yw’r swydd gyntaf o’i math yn y byd, a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ei swydd erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwenda Thomas, y byddai’r Comisiynydd yn sicrhau bod diddordebau pobl hŷn yng Nghymru, sef pobl 60 mlwydd oed ac yn hŷn, yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo:  

Fel llysgennad a llais awdurdodol ar faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn, bydd y Comisiynydd yn siarad ar ran pobl hŷn ac yn eu helpu i ddatrys problemau pan aiff pethau o chwith

Mae’r demograffig yn newid, ac erbyn 2026 bydd tua 29 y cant o bobl Cymru yn 60 mlwydd oed ac yn hŷn. Bydd y penodiad hwn yn sicrhau bod pobl hŷn wrth graidd y broses o greu polisïau.

Rwyf wrth fy modd bod Cymru yn arwain y ffordd ac yn enghraifft i eraill. Cymru oedd y wlad gyntaf i benodi Comisiynydd Plant er mwyn rhoi llais cryfach i blant a phobl ifanc, ac yn awr, ni yw’r cyntaf i gael Comisiynydd i hyrwyddo diddordebau pobl hŷn.

Cydnabyddir yn eang fod Cymru yn arwain y byd wrth roi mwy o lais i bobl hŷn yn y broses o ddatblygu gwasanaethau. Bydd y Comisiynydd unigryw hwn yn atgyfnerthu enw da Cymru ymhellach.

Caiff y rôl ei chefnogi gan bwerau statudol a bydd yn galluogi’r Comisiynydd i:

  • adolygu effaith gwasanaethau cymdeithasol ar bobl hŷn, a lle bo pethau’n mynd o chwith, edrych ar y rhesymau dros hyn a’r atebion;
  • helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin ag urddas a pharch a bod y cyfraniad enfawr y mae’r unigolion hyn wedi’i wneud yn cael ei werthfawrogi’n briodol; a,
  • bod yn ffynhonnell o wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth i bobl hŷn.

Meddai Cadeirydd Age Concern Cymru, Mr Mike Talbot:

Rydym wedi ymgyrchu’n hir ac yn daer i gael Comisiynydd o’r fath i roi’r sylw y mae dirfawr angen amdano i anghenion a hawliau pobl hŷn yng Nghymru.

Bydd Comisiynydd effeithiol yn helpu pobl hŷn i gael hawliau dynol sylfaenol  megis rhyddid rhag gwahaniaethu, mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a chymdeithasol, a chael eu diogelu rhag yr amryw ffurfiau o gam-drin.

Mae arnom eisiau i’r Comisiynydd newydd greu awyrgylch lle gall y bobl hŷn eu hunain ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus a phreifat pwysig eu rheoli a’u darparu yng Nghymru.

18 Gorffennaf, 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pobl hŷn Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2003-2008 Nofio am ddim

Tagiau

Pobl hŷn 18 Gorffennaf 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i