Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Heneiddio’n dda ac yn dawnsio i brofi hynny

Bydd grŵp o bobl hŷn sy’n ddawnswyr llinell yn profi nad yw oedran yn eu hatal rhag byw’n iach a heini wrth ddiddanu’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn lansiad yr adroddiad ar yr Ymgyrch Heneiddio’n Dda heddiw (23 Awst).
Dydd Iau 23 Awst 2007

Croesawodd Mrs Gwenda Thomas yr adroddiad a manteisiodd ar y cyfle i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymestyn ei chymorth ariannol i’r ymgyrch drwy estyn y grant presennol i Age Concern Cymru tan fis Mawrth 2011.

Cyfanswm y cyllid sy’n cefnogi ymgyrchoedd Heneiddio’n Dda a Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn yw £980,379 am dair blynedd o 2008-11.

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac Age Concern Lloegr, yn canmol rhaglen Heneiddio’n Dda am “ei heffaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol y mwyafrif o’r rhai sy’n cymryd rhan ynddi, yn enwedig eu lles cymdeithasol”.

Rhaglen yw Heneiddio’n Dda sy’n hyfforddi gwirfoddolwyr sy’n 50 oed neu’n hyn i weithredu fel “mentoriaid iechyd” i’w cymheiriaid, gan drosglwyddo gwybodaeth a chyngor am fyw yn iach iddynt.

Cyflawnwyd y broses o werthuso’r rhaglen yng Nghymru a Lloegr gan Sefydliad Ymchwil i Iechyd Prifysgol Abertawe.  Edrychwyd  ar 46 o brosiectau, 12 ohonynt yng Nghymru.  Mae’r digwyddiad  yn cael ei lansio yn safle Prosiect Iechyd a Lles Foothold yn Llanelli, sef un o’r prosiectau oedd yn cymryd rhan amlwg yn y broses werthuso.

Yn achlysur lansio’r adroddiad, dan ofal Foothold Gorllewin Cymru, dywedodd Mrs Thomas:  

Mae’n bleser gennyf lansio Adroddiad Ymchwil Heneiddio’n Dda.  Mae ganddo deitl gwych, sef ‘Unwaith rwy’n gwisgo fy esgidiau rhedeg, rwy’n teimlo fel dawnsio.’  Rwy’n deall mai dyfyniad yw hwn gan un o gleientiaid un o’r prosiectau Heneiddio’n Dda a’i fod yn nodweddiadol o lawer o’r sylwadau a dderbyniwyd.

Mae’r adroddiad yn dweud bod gwirfoddolwyr hŷn yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran hybu iechyd a lles pobl eraill sydd yn eu 50au neu’n hŷn, a’u bod yn gallu helpu i hyrwyddo amcanion strategol ehangach y maes iechyd cyhoeddus, o ran cadw’n brysur wrth heneiddio.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu pobl hŷn eraill i newid eu hagwedd ac i fanteisio ar gyfleoedd yn lleol i wella eu hiechyd.  Gallai hynny fod yn ddosbarth ymarfer corff neu ddosbarth dawnsio lleol, sesiynau ar goginio bwyd iach, diwrnod o gyflwyno gwybodaeth am ddiogelwch, neu unrhyw bwnc perthnasol a awgrymir gan bobl hŷn.

Mae llawer o’r prosiectau Heneiddio’n Dda yn cynnig cyfleoedd ym maes y celfyddydau neu ym maes TGCh.  Mae hynny oherwydd bod y celfyddydau, yn ogystal â rhoi diddanwch, yn rhoi cyfle i bobl fynegi eu hunain a chreu cysylltiadau cymdeithasol. Mae hynny yn ei dro yn hwb i’w iechyd a’u lles emosiynol.

Caiff yr adroddiad ei ddosbarthu’n eang ledled Cymru i bartneriaid allweddol ym maes iechyd cyhoeddus, llywodraeth leol a byrddau iechyd lleol ac i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am hybu iechyd a lles ymysg pobl hŷn.

Ychwanegodd Mrs Thomas:

Mae’r ymgyrch Heneiddio’n Dda yn amlwg yn boblogaidd iawn gyda phobl hŷn ac yn gallu bod yn ddull effeithiol o hybu iechyd.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru am barhau i gefnogi Heneiddio’n Dda drwy  estyn y grant presennol i Age Concern Cymru tan fis Mawrth 2011.

Yn wir, bydd lefel bresennol y  cyllid yn cael ei chynyddu  er mwyn datblygu Rhaglen Heneiddio’n Dda ehangach yn Age Concern Cymru.  Bydd hyn yn dod â  Heneiddio’n Dda ac ymgyrch flynyddol Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn Llywodraeth Cynulliad Cymru at ei gilydd ac yn galluogi datblygu mentrau pellach, penodol yn ymwneud â gweithgareddau corfforol, bwyta’n iach ac iechyd a lles emosiynol.

Caiff yr ymgyrch Heneiddio’n Dda ei chydlynu gan Age Concern ac mae’n cael ei darparu’n lleol naill ai gan sefydliadau Age Concern lleol, neu gan bartneriaethau lleol eraill sy’n gweithio ar ran pobl hŷn.

Meddai Dr Sue Lambert, Pennaeth Canolfan Economeg Iechyd ac Astudiaethau Polisi Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Abertawe, un o’r academyddion a gynhaliodd yr adolygiad:

Un o brif ddarganfyddiadau’r broses werthuso oedd bod pobl hŷn yn dweud wrthym eu bod wedi gweld manteision corfforol, cymdeithasol a manteision iechyd wrth gymryd rhan yn yr ymgyrch Heneiddio’n Dda. Yn fwy na dim, fe welsant welliant yn eu lles  cymdeithasol.

Dywedodd y gwirfoddolwyr wrthym eu bod hwy a’r bobl hŷn eraill roeddent yn eu cynorthwyo wedi elwa ar gymryd rhan mewn prosiectau a oedd yn pwysleisio pa mor werthfawr yw defnyddio gwirfoddolwyr.

23 Awst 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pobl hŷn Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Pobl hŷn 23 Awst 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i