Sefydlwyd y grŵp yn 2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyngor annibynnol arbenigol a fyddai o gymorth wrth lunio polisïau i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru a chynllunio ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.
Penodwyd Wendy Bourton OBE, prif weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, yn gadeirydd y Fforwm ym mis Ionawr.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi penodi Lorraine Morgan, Terry Mills, yr Athro Vanessa Burholt, y Cyngh. Arnold Woolley ac Emlyn Lloyd yn aelodau newydd o’r Fforwm ac wedi ailbenodi Clive Owen, Hilda Smith, Susan Last, Robin Morrison, Tom Moran, Roy Orringe a Nancy Davies.
Meddai Gwenda Thomas:
Ystyrir bod Cymru ar flaen y gad gyda materion pobl hŷn, ac rwy’n awyddus i gadw’r enw da hwnnw. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn mynd yn hŷn, ac mae hynny’n achos i ddathlu. Ond wrth inni heneiddio mae ein anghenion yn newid, ac felly mae’n bwysig ein bod yn cynllunio’n effeithiol er mwyn diwallu anghenion y dyfodol.
Mae gan y Fforwm ran bwysig i’w chwarae yn y broses o weithredu ail gam Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth y Cynulliad, a bydd yn helpu i sicrhau bod ein polisïau ni yn diwallu anghenion pobl hŷn.
Rwy’n hapus gyda’r penodiadau newydd a’r ailbenodiadau i’r Fforwm. Mae nhw’n dod â chyfoeth o brofiad i’r Fforwm a bydd y wybodaeth a ddarperir ganddynt yn sail ar gyfer datblygu ein strategaeth er budd yr holl bobl hŷn yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.
Ychwanegodd Wendy Bourton, Cadeirydd y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol:
Mae’r Fforwm wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth eang o unigolion. Bydd eu harbenigedd a’u sgiliau yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau’r Fforwm yn effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth er budd pobl hŷn yng Nghymru.
23 Mawrth 2009











