Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodi aelodau newydd i’r Fforwm Partneriaeth cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn

Heddiw [Dydd Llun, 23 Mawrth], mae’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas wedi cyhoeddi penodiadau i’r Fforwm Partneriaeth cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.
Dydd Llun 23 Mawrth 2009

Sefydlwyd y grŵp yn 2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyngor annibynnol arbenigol a fyddai o gymorth wrth lunio polisïau i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru a chynllunio ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.

Penodwyd Wendy Bourton OBE, prif weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, yn gadeirydd y Fforwm ym mis Ionawr.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi penodi Lorraine Morgan, Terry Mills, yr Athro Vanessa Burholt, y Cyngh. Arnold Woolley ac Emlyn Lloyd yn aelodau newydd o’r Fforwm ac wedi ailbenodi Clive Owen, Hilda Smith, Susan Last, Robin Morrison, Tom Moran, Roy Orringe a Nancy Davies.

Meddai Gwenda Thomas:

Ystyrir bod Cymru ar flaen y gad gyda materion pobl hŷn, ac rwy’n awyddus i gadw’r enw da hwnnw. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn mynd yn hŷn, ac mae hynny’n achos i ddathlu. Ond wrth inni heneiddio mae ein anghenion yn newid, ac felly mae’n bwysig ein bod yn cynllunio’n effeithiol er mwyn diwallu anghenion y dyfodol.

Mae gan y Fforwm ran bwysig i’w chwarae yn y broses o weithredu ail gam Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth y Cynulliad, a bydd yn helpu i sicrhau bod ein polisïau ni yn diwallu anghenion pobl hŷn.

Rwy’n hapus gyda’r penodiadau newydd a’r ailbenodiadau i’r Fforwm. Mae nhw’n dod â chyfoeth o brofiad i’r Fforwm a bydd y wybodaeth a ddarperir ganddynt yn sail ar gyfer datblygu ein strategaeth er budd yr holl bobl hŷn yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.

Ychwanegodd Wendy Bourton, Cadeirydd y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol:

Mae’r Fforwm wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth eang o unigolion. Bydd eu harbenigedd a’u sgiliau yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau’r Fforwm yn effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth er budd pobl hŷn yng Nghymru.

23 Mawrth 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pobl hŷn

Tagiau

Pobl hŷn 23 Mawrth 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i