Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodi cadeirydd newydd i’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn

Heddiw [dydd Llun 26 Ionawr] cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ei bod wedi penodi cadeirydd newydd ar gyfer y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.
Dydd Llun 26 Ionawr 2009

Sefydlwyd y grŵp yn 2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cyngor annibynnol arbenigol i lywio polisïau er mwyn gwella bywydau pobl hŷn Cymru ac i gynllunio ar gyfer y goblygiadau a ddaw yn sgil byw mewn cymdeithas sy’n mynd yn hŷn.

Wendy Bourton OBE, prif weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, fydd yn cymryd lle Dr Malcolm Fisk sydd wedi cwblhau ei gyfnod o bedair blynedd fel cadeirydd.

Dywedodd Gwenda Thomas:

Hoffwn dalu teyrnged i Dr Fisk am ei waith caled a’i ymrwymiad fel cadeirydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn.

Gwelir Cymru fel arweinydd ar faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn ac rwy’n awyddus i’r enw da hwn barhau.  Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn mynd yn hŷn ac mae hyn yn achos i ddathlu.  Ond wrth inni heneiddio, mae ein hanghenion yn newid hefyd ac felly mae hi’n bwysig ein bod yn cynllunio’n effeithiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny yn y dyfodol.

Mae gan y Fforwm rôl bwysig i’w chwarae yn rhoi ail ran o Strategaeth Pobl Hyn Llywodraeth y Cynulliad ar waith a bydd yn helpu i sicrhau bod ein polisïau’n diwallu anghenion pobl hŷn hefyd.

Rwy’n falch iawn bod Wendy wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn gadeirydd newydd ar y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol.  Yn flaenorol, cynrychiolydd y Sector Tai ar y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol oedd Wendy ac felly mae hi’n gyfarwydd iawn â’r agenda ar heneiddio a hefyd mae ganddi’r cymysgedd cywir o sgiliau arwain a rhinweddau personol a fydd yn ei chynorthwyo i lwyddo yn ei rôl newydd.

Ychwanegodd Wendy Bourton OBE:

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at waith y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol a chydweithio gyda’r aelodau a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Disgwylir cyhoeddiad pellach ynghylch penodiadau newydd i’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol cyn hir.

26 Ionawr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pobl hŷn

Tagiau

Pobl hŷn 26 Ionawr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i