Lansiodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol werthusiad o ail gymal y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, gan bennu’r cyfeiriad ar gyfer gwaith a fydd yn rhoi sylw i anghenion poblogaeth sy’n heneiddio.
Meddai Gwenda Thomas:
“Cafodd y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn ei lansio yn 2003, a hon oedd y strategaeth gyntaf ym Mhrydain i roi sylw i’r cyfleoedd sy’n codi yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio. Bu llawer yn ei chymeradwyo a’i chanmol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn sgil y Strategaeth gwelwyd nifer o welliannau gwirioneddol ac ymarferol ym mywydau pobl hŷn ledled Cymru ac mae wedi arwain at ddatblygiadau arloesol, gan gynnwys penodi’r Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd.
“Fodd bynnag, ni allwn bwyso ar ein rhwyfau. Mae gwahaniaethu ar sail oedran, urddas mewn gofal, newidiadau demograffig a llawer o faterion eraill yn dal yn bwysig i ddyfodol Cymru. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i werthuso’r Strategaeth ac i ddatblygu cymal newydd a fydd yn dechrau yn 2013. Bydd pobl hŷn yng Nghymru yn cael y cyfle i gyfrannu at y broses hon trwy ddweud wrthym beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio. Efallai mai’r peth pwysicaf yw bod pobl hŷn yn cael cyfle i ddylanwadu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.”
Bydd cyfle i bobl hŷn ddweud eu dweud yn eu fforwm 50+ lleol neu drwy ymweld â stondin y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 30 Gorffennaf - 6 Awst. Bydd y gwerthusiad yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2012.
Meddai Mrs Thomas:
“Yn eich fforwm lleol neu yn yr Eisteddfod Genedlaethol; dyma gyfle i ddweud wrthym beth ddylai ein blaenoriaethau fod ar gyfer pobl hŷn.”











