Heddiw (Dydd Gwener, 25 Gorffennaf 2008) cadarnhaodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, y bydd rhagor o arian yn cael ei roi fel cymorth i wella’r ffordd o gyflenwi’r gwasanaeth cynllunio yng Nghymru.
Dywedodd Ms Davidson:
Cyn hyn, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod symiau penodol o arian ar gael i bob un o’r 25 awdurdod cynllunio yng Nghymru, fel cymorth i wella’r ffordd y mae eu gwasanaethau cynllunio yn cael eu cyflenwi yn eu hardaloedd lleol. Rwy’n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd rhagor o arian ar gael i gyllido amrywiaeth o brosiectau Cymru gyfan, ac i gynorthwyo partneriaid allweddol sy’n cydweithio ag awdurdodau cynllunio i gyflenwi’r gwasanaeth cynllunio.
Esboniodd y Gweinidog, gan fod angen canolbwyntio ar gyflenwi, ei bod wedi cytuno ar arian ar gyfer y meysydd gwaith canlynol:
Arian ar gyfer awdurdodau cynllunio sy’n derbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt ar raddfa fawr
Hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig Awdurdodau Cynllunio Lleol ar y math newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol, ac ar reoli datblygu
Datblygu ymhellach y Porth Cynllunio yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno’n raddol ffurflen gais safonol ddwyieithog i’w defnyddio gan bawb sy’n cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i unrhyw awdurdod cynllunio yng Nghymru
Buddsoddi yn nyfodol y gweithlu, drwy ddarparu nifer cyfyngedig o fwrsarïau cynllunio i fyfyrwyr drwy gyfrwng Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd hefyd:
Er bod gan Awdurdodau Cynllunio Lleol rôl allweddol i’w chwarae yn y system gynllunio, mae’r dyraniadau hyn hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw partneriaid allweddol eraill sy’n cydweithio ag Awdurdodau Cynllunio Lleol yn y broses o gyflenwi gwasanaeth cynllunio effeithlon, effeithiol ac agored. Mae’n hanfodol i ni gyd barhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod ein blaenoriaethau a’n hanghenion, sy’n newid yn barhaus, yn cael eu cyflawni drwy gyfrwng y gwasanaeth cynllunio.
July 25 2008











