Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Datganiadau dylunio newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio yng Nghymru i ddod i rym yn fuan

Heddiw, atgoffodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gynllunwyr y bydd rhai ceisiadau cynllunio yng Nghymru yn gofyn am Ddatganiadau Dylunio a Mynediad o 1 Mehefin eleni.
Dydd Llun 20 Ebrill 2009

Bydd Datganiadau Dylunio a Mynediad yn cyd-fynd â cheisiadau cynllunio a/neu ganiatâd adeiladau rhestredig. Fe fyddan nhw’n dangos sut cytunwyd ar y cynllun terfynol ac fe fyddan nhw’n cynnwys gwybodaeth am gynaliadwyedd y datblygiad.

Dywedodd Ms Davidson:

Mae effaith y newid yn yr hinsawdd yn galw am newid mawr yng nghynaliadwyedd adeiladau – a gwella’r ffordd y maen nhw’n cael eu caffael, eu hadeiladu a’u cynnal. Bydd cyflwyno’r datganiad dylunio yn cyfrannu at hyn. Bydd yn golygu bod dylunwyr a chynllunwyr yn gorfod meddwl am egwyddorion dylunio a chysyniad dylunio mewn perthynas â’r cynnig datblygu.

Gall adeiladau gwyrddach yng Nghymru arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o arwain y ffordd o ran gwella cynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru. Y llynedd, fe gyhoeddon ni ein huchelgais ar gyfer 2011 i wneud pob adeilad newydd yn ddi-garbon. Rydyn ni hefyd yn ceisio datganoli’r rheoliadau adeiladu o San Steffan i Gaerdydd i ddatblygu hyn.

Mae pump agwedd ar ddylunio y bydd angen i’r Datganiad Dylunio a Mynediad eu hystyried:

  • hwylustod mynediad
  • cynaliadwyedd amgylcheddol
  • cymeriad (cynllun, graddfa ac ati)
  • hwylustod o ran symud o amgylch y datblygiad, ac o’i fewn
  • diogelwch cymunedol

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i ymgeiswyr a phob awdurdod cynllunio lleol weithredu’r ddeddfwriaeth hon unwaith y bydd yn ei lle. Caiff hyfforddiant ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol ei gyflwyno cyn hir. Bydd fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 12: ‘Dylunio’ hefyd ar gael o’r dyddiad hwn i roi’r canllawiau diweddaraf ar faterion dylunio a mynediad.

20 Ebrill 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Cynllunio 20 Ebrill 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i