Ym mis Hydref 2006, gwnaeth Westgate Park (Cardiff) Ltd gais i Gyngor Caerdydd am ganiatâd cynllunio amlinellol i ddatblygu “Parc Busnes o Statws Rhyngwladol” a fyddai’n cynnwys 100,000 metr sgwâr o dir cyflogaeth (B1); 26,000 metr sgwâr ar gyfer gwesty, cyfleusterau atodol, cyfnewidfa drafnidiaeth ranbarthol, meysydd parcio, tirlunio a mynedfeydd.
Mae’r safle’r cais yn cwmpasu 40.8 hectar (100 erw) o dir amaethyddol a choetir i’r gogledd o Gyffordd 33 ar draffordd yr M4, ger gwasanaethau Gorllewin Caerdydd. Mae tua 13 cilomedr i’r gogledd-orllewin o ganol dinas Caerdydd.
Ar 15 Gorffennaf 2009, penderfynodd Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor roi caniatâd cynllunio. Gan fod y Cyngor o’r farn fod y datblygiad yn gwyro o’r hyn sydd yn y cynllun datblygu, anfonwyd y cais ymlaen at Weinidogion Cymru ar 28 Gorffennaf 2009 yn unol â darpariaethau Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu ac Ymgynghoriadau) (Gwyro) 1992. Mae’r Cyfarwyddyd yn rhoi hawl i Weinidogion Cymru ystyried a ddylen nhw alw i mewn y cais a phenderfynu arno eu hunain.
Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cael llawer o ohebiaeth yn gofyn iddynt alw i mewn y cais i wneud penderfyniad arno.
Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyffredinol yw y dylid galw ceisiadau cynllunio i mewn pan fyddant yn codi materion cynllunio sydd o bwysigrwydd ehangach na’r ardal leol yn unig. Wrth ystyried a ddylent alw i mewn cais, ni chaiff Gweinidogion Cymru ysyried rhinweddau cynllunio y datblygiad arfaethedig.
Cafodd y cais hwn ei alw i mewn ar ôl i Weinidogion Cymru ddod i’r casgliad y gallai maint a lleoliad y datblygiad arfaethedig, a’i effaith gyffredinol ar yr amgylchedd, wrthdaro’n sylweddol â’r polisi cenedlaethol ar ddatblygiadau ar dir gwledig, datblygu cynaliadwy, ynghyd â lleoli datblygiadau swyddfeydd a manwerthu newydd a’r effaith arnynt. Hefyd, mae yna bosibilrwydd y byddai’n cael effaith y tu hwnt i’r ardal leol, o ran ei effaith ar y rhwydweithiau trafnidiaeth lleol a strategaethau cynlluniau datblygu yr awdurdodau cynllunio lleol cyfagos.
Roedd Gweinidogion Cymru hefyd yn nodi bod y materion hyn yn codi mewn cyd-destun lle nad oes gan yr awdurdod cynllunio lleol gynllun datblygu cyfredol ar gyfer yr ardal, ac mae’r gwaith o baratoi cynllun datblygu o’r fath yn ei ddyddiau cynnar. Yn ogystal, oherwydd y diddordeb a ddangoswyd yn y cais gan yr awdurdodau lleol cyfagos, roedd y Gweinidogion o’r farn fod y cais yn destun dadl y tu hwnt i’r ardal leol.
Diben galw i mewn y cais hwn yw sicrhau bod y materion uchod, sydd o bwysigrwydd y tu hwnt i’r lleol ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael eu hystyried gan arolygydd cynllunio annibynnol a fydd, ar ôl ystyried rhinweddau’r cais, yn gwneud argymhellion i’r Gweinidogion.
Cafodd y datganiad hwn ei gyhoeddi er mwyn rhoi gwybod i’r cyfryngau fod penderfyniad wedi’i wneud i alw’r cais i mewn. Gan fod y cais bellach gerbron Gweinidogion Cymru er mwyn iddynt ei ystyried a gwneud penderfyniad arno, ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud sylwadau pellach yn ei gylch. Bydd y gweithdrefnau a fydd yn cael eu defnyddio i fwrw ymlaen â’r gwaith o ystyried y cais yn cael eu cyhoeddi gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
28 Awst 2009











