Mae Nodyn Cyngor Technegol 22 (TAN 22), Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy, yn disgrifio’r canllawiau cynllunio a luniwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ategu’r polisi cynllunio arloesol a gafodd ei gyhoeddi yn 2009. Mae’r polisi’n gosod safon ofynnol ar gyfer cynaliadwyedd y rhan fwyaf o adeiladau newydd a gynigir yng Nghymru.
O ran cartrefi newydd, bydd y Cyngor Technegol:
- yn lleihau eu hallyriadau carbon fwy na 31% o’u cymharu â’r rheoliadau adeiladu presennol, a hynny trwy ddefnyddio ynni’n effeithlon a defnyddio ynni adnewyddadwy
- yn sicrhau bod llai o ddŵr yn cael ei ddefnyddio
- yn sicrhau bod deunyddiau mwy cynaliadwy yn cael eu defnyddio
Wrth lansio TAN 22 yn y Sioe Cartrefi ac Adeiladau Gwyrdd yn Llanelwedd ar 4 Mehefin, meddai Ms Davidson:
“Rydyn ni’n lansio’n cyngor technegol ar gynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy ar yr un diwrnod ag yr ydyn ni’n cydnabod yr adeiladau mwyaf cynaliadwy i gael eu hadeiladu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn arwydd clir bod adeiladau Cymru yn fwyfwy cynaliadwy a di-garbon.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i warchod ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol a bydd y canllawiau hyn yn ein helpu i gyrraedd y nod trwy ein system cynllunio.
“Mae cartrefi ac adeiladau eraill yn cynhyrchu 40% o’n hallyriadau carbon, felly mae’n amlwg y byddai lleihau’r nwyon tŷ gwydr sy’n dod o’r ffynhonnell honno yn gam mawr tuag at leihau ein hôl troed carbon. Rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein cartrefi’n ecogyfeillgar ac yn defnyddio ynni’n effeithlon. Mae TAN22 yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch honno.”
Bydd disgwyl i gynigion tai gadw at Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy a bydd disgwyl i adeiladau, lle nad oes pobl yn byw, fodloni o leiaf safon ‘Da Iawn’ BREEAM.
Dim ond y cam diweddaraf tuag at ddefnyddio’r system gynllunio fel rhan o’r agenda gwyrdd yw cyhoeddi’r nodyn cyngor technegol hwn. Bydd y cyngor hwn, ochr yn ochr â datganoli rheoliadau adeiladau, yn ein helpu i sicrhau bod ein hadeiladau yn fwyfwy cynaliadwy a di-garbon. Bydd yn helpu Llywodraeth y Cynulliad i gyrraedd ei tharged, sef lleihau allyriadau 3% o 2011 yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt.











