Heddiw (23 Tachwedd 2010) yw dyddiad cyhoeddi’r papur ymgynghori, Proposed changes to householder permitted development rights, ac mae gwahoddiad i bobl anfon eu sylwadau.
Mae’r cynigion yn cynnwys amodau i leihau’r effaith ar gymdogion, yn ogystal ag atal llifogydd, drwy ei gwneud hi’n ofynnol i ddefnyddio deunyddiau sy’n gadael i ddŵr dreiddio trwyddynt ar gyfer wynebau caled, er enghraifft asffalt â thyllau mân ynddo, blociau pafin concrit sy’n gadael dŵr trwyddynt, neu drwy wneud darpariaeth i ganiatáu i ddŵr ddraenio’n naturiol.
Dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd:
“Mae ein cynigion yn rhai manwl ac yn cynnwys cyfarwyddiadau i’w gwneud hi’n haws i bobl ddeall y newidiadau y gallan nhw eu gwneud heb orfod cael caniatâd cynllunio. Rydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi cael cydbwysedd drwy helpu awdurdodau cynllunio lleol i ddefnyddio eu hadnoddau at ddibenion eraill wrth gael gwared ar rai o’r ceisiadau cynllunio bach o’r system, yn ogystal â sicrhau na fydd unrhyw effaith ar gymdogion.”
Bydd modd ymateb i’r ymgynghoriad o heddiw tan 15 Chwefror 2011.











