Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Newidiadau i’r Rheolau Cynllunio ar gyfer Gwella Cartrefi

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig newidiadau a fydd yn ei gwneud hi’n haws i berchnogion tai ymestyn neu wella eu heiddo heb orfod cyflwyno cais cynllunio.
Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2010

Heddiw (23 Tachwedd 2010) yw dyddiad cyhoeddi’r papur ymgynghori, Proposed changes to householder permitted development rights, ac mae gwahoddiad i bobl anfon eu sylwadau.  

Mae’r cynigion yn cynnwys amodau i leihau’r effaith ar gymdogion, yn ogystal ag atal llifogydd, drwy ei gwneud hi’n ofynnol i ddefnyddio deunyddiau sy’n gadael i ddŵr dreiddio trwyddynt ar gyfer wynebau caled, er enghraifft asffalt â thyllau mân ynddo, blociau pafin concrit sy’n gadael dŵr trwyddynt, neu drwy wneud darpariaeth i ganiatáu i ddŵr ddraenio’n naturiol.

Dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd:

“Mae ein cynigion yn rhai manwl ac yn cynnwys cyfarwyddiadau i’w gwneud hi’n haws i bobl ddeall y newidiadau y gallan nhw eu gwneud heb orfod cael caniatâd cynllunio. Rydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi cael cydbwysedd drwy helpu awdurdodau cynllunio lleol i ddefnyddio eu hadnoddau at ddibenion eraill wrth gael gwared ar rai o’r ceisiadau cynllunio bach o’r system, yn ogystal â sicrhau na fydd unrhyw effaith ar gymdogion.”

Bydd modd ymateb i’r ymgynghoriad o heddiw tan 15 Chwefror 2011.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllunio

Tagiau

Cynllunio 23 Tachwedd 2010 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i