Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gynllunio morol yng Nghymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Jane Davidson, wedi lansio’r ymgynghoriad ar "Ddatblygu Cynaliadwy i Foroedd Cymru: Ein dull ni o gynllunio morol yng Nghymru", er mwyn ceisio safbwyntiau ar gynlluniau cenedlaethol ar gyfer dyfroedd glannau a dyfroedd môr mawr Cymru.
Dydd Mercher 16 Chwefror 2011

Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y Cynulliad gynllunio a rhoi’r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer gweithgareddau ar ddyfroedd glannau a dyfroedd môr mawr Cymru. Gall cynllunio morol gynnwys nifer o weithgareddau, gan gynnwys cadwraeth forol, ffermydd gwynt ar y môr, carthu morol a thwristiaeth sy’n seiliedig ar y môr.

Roedd y Gweinidog yn siarad yng nghynhadledd Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru yng Nghaerdydd. Yn ystod ei haraith i fwy na 60 o bobl yn bresennol, meddai:

“Mae Cymru’n falch i fod yn un o nifer fach o lywodraethau ar draws y byd lle mae datblygiad cynaliadwy wedi’i gynnwys mewn statud. Mae datblygiad cynaliadwy wedi dod yn egwyddor ganolog wrth drefnu holl waith Llywodraeth Cynulliad Cymru.

“Mae cynllunio morol yn rhan allweddol o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, darn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n rhoi inni’r offer i wneud cynnydd gwirioneddol o ran moroedd ac arfordiroedd Cymru. Mae’n bwysig tu hwnt i ni fod cynllunio morol yn helpu i gyflawni datblygiad cynaliadwy yn yr ardaloedd morol.

“Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer dull cydlynus llawer cryfach o ran rheoli ein moriodd mewn modd cynaliadwy - drwy gryfhau ac atgyfnerthu trwyddedu morol, darparu pwerau cadwraeth newydd a phwerau rheoli a gorfodi pysgodfeydd.

“Mae angen eich barn arnom ar sut y dylem lunio ein dull ni o gynllunio morol – yn ogystal â’r prif faterion sy’n rhaid inni eu hystyried wrth ddechrau llunio’r cynlluniau morol.”

Gellir dod o hyd i’r ymgynghoriad a manylion am sut i gyflwyno eich safbwyntiau ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy ar gyfer moroedd Cymru: Ein dull o ymdrin â chynllunio morol yng Nghymru

Tagiau

Cynllunio 16 Chwefror 2011 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i