Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Canllawiau'n adnewyddu'r ymrwymiad i gynllunio ar gyfer ynni cynaliadwy

Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson wedi lansio polisi cynllunio sydd wedi'i ddiweddaru i gefnogi dyheadau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Dydd Mawrth 01 Mawrth 2011

Mae'r ychwanegiad newydd, Polisi Cynllunio Cymru, wedi'i ddatblygu i helpu Cymru i wireddu ei huchelgais i beidio â dibynnu ar ffurfiau carbon uchel ar ynni a dewis ffurfiau cynaliadwy carbon is yn eu lle. Mae'n cyd-fynd â Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth y Cynulliad, a gafodd ei lansio y llynedd.

Wrth siarad am y polisi cynllunio newydd, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson:

"Mae'r newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a chymryd camau i leihau allyriadau carbon. Un o'r prif ffyrdd y gallwn ni sicrhau hyn yw dechrau defnyddio ffurfiau mwy adnewyddadwy ar ynni yn raddol.

"Mae gan y system gynllunio ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith hwn. Mae'r polisi cynllunio newydd rydw i'n ei lansio heddiw yn darparu fframwaith a fydd yn helpu'r prosiectau ynni adnewyddadwy.

"Mae'n annog awdurdodau cynllunio i gymryd camau i gynllunio ar gyfer prosiectau carbon isel ac asesu eu potensial eu hunain i ddarparu ar eu cyfer. All hyn ddim ond bod yn newyddion da ar gyfer Cymru wyrddach a glanach.

"Fodd bynnag un dull yn unig o’r nifer o ddulliau rydyn ni’n eu defnyddio i gefnogi ynni adnewyddadwy yw’r system cynllunio.  Yr haf diwethaf fe lansiais raglen gymorth i helpu busnesau yng Nghymru trwy broses ardystio’r diwydiant sy’n angenrheidiol er mwyn gosod technoleg ficro-gynhyrchu megis paneli solar a phympiau gwres.

"Ers lansio’r rhaglen ym mis Awst, mae’r nifer o osodwyr yng Nghymru wedi cynyddu 261% - ffigur nodedig iawn - gyda 84 o gwmnïoedd nawr yn cyflawni’r gwaith. Rwy’n gobeithio bydd y nifer yn parhau i gynyddu."

Meddai Dirprwy Prif Weinidog, Ieuan Wyn Jones:

"Yr ydym wedi bod yn gwrando ar ofidiau'r gymuned busnes ac roeddwn nhw yn gofyn i'r broses cynllunio cael ei ddiwygio er mwyn cael sustem fwy effeithiol a chyson."

"Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol mae angen yr allu ar fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn datblygiadau newydd yn effeithlon ac yn amserol. Mae'r polisi cynllunio i'r sector ynni adnewyddadwy a gyhoeddwyd heddiw yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella Polisi Cynllunio Cymru ac ein hymrwymiad i ddatblygu'r economi wyrdd yng Nghymru."

Mae'r polisi newydd yn rhoi'r canllawiau diweddaraf i'r awdurdodau cynllunio ar yr angen am Gynlluniau Datblygu Lleol a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio i adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae hefyd yn nodi graddfeydd gwahanol ynni adnewyddadwy a charbon isel ac yn cydnabod nad drwy'r system gynllunio y caiff penderfyniadau eu gwneud ar gynigion ynni mawr dros 50MW ac nad ydyn nhw wedi'u datganoli i Gymru.

Nid yw'r polisi'n newid egwyddor Ardaloedd Chwilio Strategol ar gyfer datblygiadau gwynt graddfa fawr ar y tir, fel mae Nodyn Cyngor Technegol 8 Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005 yn ei amlinellu.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

£2 filiwn i gefnogi’r gwaith i wella cynllunio yng Nghymru Newidiadau i’r polisi cynllunio yn cefnogi symudiad tuag at ynni gwyrddach. Polisi Cynllunio Cymru

Tagiau

Cynllunio 01 Mawrth 2011 Ynni adnewyddadwy Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i