Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynigion newydd ym maes cynllunio i gefnogi’r iaith Gymraeg

Mae canllawiau cynllunio newydd fydd yn cefnogi dyfodol yr iaith Gymraeg yn cael eu cynnig gan Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd a Chynllunio.
Dydd Llun 21 Mawrth 2011

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ar gynigion newydd sy’n nodi sut y dylid cynnwys yr iaith Gymraeg yn y broses gynllunio leol, mewn ymgais i gefnogi anghenion a buddiannau’r iaith.  

Mae’r polisi presennol, sydd wedi’i bennu yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, eisoes yn cynnig canllawiau ar sut y dylai awdurdodau lleol ystyried anghenion a buddiannau’r iaith Gymraeg yn eu penderfyniadau cynllunio.  

Mae’r cynigion newydd yn ychwanegu at y canllawiau presennol, ac yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio Asesiadau o Effaith ar Iaith.  Bydd hyn yn rhan o’r broses o werthuso cynaliadwyedd sydd eisoes yn digwydd wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.  

Mae’r canllawiau diwygiedig yn cefnogi’r ymrwymiadau yn Iaith Fyw: Iaith Byw, dogfen ymgynghori ddiweddar Llywodraeth y Cynulliad ar strategaeth newydd i’r iaith Gymraeg.  

Wrth drafod y cynigion, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Chynllunio:  

“Bydd lles yr iaith Gymraeg yn y dyfodol yn dibynnu ar nifer o bethau, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.  

“Mae’r cynigion hyn yn sicrhau bod y system cynllunio defnydd tir yn ystyried anghenion a buddiannau’r iaith Gymraeg, a thrwy wneud hynny yn cyfrannu at ei lles."

Ychwanegodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth:

“Bydd y canllawiau newydd hyn yn cefnogi ein polisïau eraill i fodloni awydd y Llywodraeth i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu.  

“Yn ogystal â Mesur yr Iaith Gymraeg, Iaith Fyw: A Living Language, a’n Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion o weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith.”  

Mae’r cynigion yn ychwanegu at newidiadau eraill y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u gwneud i’w chanllawiau cynllunio i sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru, a helpu i sicrhau dyfodol cymunedau gwledig trwy ddarparu tai a chyfleoedd gwaith lleol.  

Mae’r newidiadau allweddol a gynigwyd yn cynnwys:

  • Egluro rôl y Cynllun Datblygu Lleol i gefnogi’r defnydd o’r Iaith Gymraeg.  
  • Cyfuno’r Asesiadau Effaith ar yr Iaith Gymraeg â’r Arfarniadau o Gynaliadwyedd a’r Asesiadau Safle presennol wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.  
  • Trefniadau monitro y Cynlluniau Datblygu Lleol i asesu effaith datblygiad newydd ar yr iaith Gymraeg.  
  • Dulliau posib o liniaru effaith datblygiad newydd ar yr iaith Gymraeg.  
  • Swyddogaeth yr Ardoll Seiliau Cymunedol o ran cefnogi seilwaith yr iaith Gymraeg, fel lleoedd ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu gyrsiau iaith i oedolion.  

Mae’n bosib gweld Nodyn Cyngor Technegol Drafft 20 – Cynllunio a’r Iaith Gymraeg yn llawn ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynhelir yr ymgynghoriad o ddydd Llun 21 Mawrth tan 13 Mehefin 2011
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Nodyn Cyngor Technegol Drafft 20: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg

Tagiau

Cynllunio 21 Mawrth 2011 Yr Amgylchedd Tai Adfywio Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i