Mae’r Gweinidog hefyd wedi gofyn i bawb sy’n gwneud penderfyniadau barchu uchafswm y capasiti gosod ar gyfer ynni gwynt ar y tir.
Mae llythyr y Gweinidog, sy’n cael ei anfon at Benaethiaid Cynllunio yng Nghymru, yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC), cwmnïau ynni a phobl eraill sydd â diddordeb, yn nodi ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ganllawiau cynllunio, Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8) a’i dymuniad i beidio â datblygu ffermydd gwynt mawr y tu allan i’r saith Ardal Chwilio Strategol. Penderfynwyd, drwy broses asesu annibynnol, mai’r Ardaloedd hyn oedd y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiadau gwynt.
Mae llythyr y Gweinidog hefyd yn egluro safbwynt y Llywodraeth ynghylch uchafswm y capasiti a sut mae sicrhau hyn.
Meddai’r Gweinidog:
“Roedd ein Datganiad Polisi Ynni, Chwyldro Ynni Isel, yn disgrifio’n llawn uchafswm y capasiti a ystyriwyd yn briodol gennym ar gyfer yr Ardaloedd Chwilio Strategol, fel y nodir yn TAN 8 yn 2005.
“Cafodd uchafswm capasiti yr Ardaloedd Chwilio Strategol eu hasesu gan ymgynghorwyr annibynnol ac mae’n darparu ar gyfer bron i 1700 megawat o ynni gwynt ar y tir ar draws ein holl Ardaloedd Chwilio Strategol. Rhagwelir y bydd y 300MW sy’n weddill yn dod o gyfuniad o ddatblygiadau o dan 25MW, safleoedd tir llwyd, cynlluniau cymunedol a microgynhyrchu. “
Cydnabu’r Gweinidog hefyd bod angen atgyfnerthu'r rhwydwaith trosglwyddo yn y Canolbarth cyn dod â chapasiti cynhyrchu ychwanegol i’r ardal, a hefyd ddarparu rhwydwaith cryfach mwy dibynadwy i ddefnyddwyr ynni.
Meddai:
“Roedd TAN 8 yn cyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru fod y cysylltiadau o’r tyrbinau unigol i’r is-orsaf i fod trwy geblau tanddaearol ac y byddai unrhyw gysylltiad o is-orsaf i bwynt agosaf y rhwydwaith ddosbarthu trwy system 3 gwifren safonol ar bolion pren neu trwy wifrau tanddaearol.
“Dyma safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd, a chaiff ei gadarnhau yn yr hyn sy’n cael ei nodi yn Nhrywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru yn 2008, a’r Datganiad Polisi Ynni yn 2010.”
Pwysleisiodd y Gweinidog, ar yr amod bod y datblygiad wedi’i gyfyngu i’r uchafswm capasiti, na fydd angen seilwaith mawr, hynod amlwg, foltedd uchel ar gyfer y rhwydwaith grid a’r is-orsaf gysylltiedig fel sy’n cael ei gynnig yn y Canolbarth. Ble mae angen grid newydd, rydym yn disgwyl i’r cwmni grid a’r rheolydd sicrhau ei fod wedi’i leoli, ei ddylunio a’i osod mor sensitif â phosib.
Atgoffodd y Gweinidog pawb sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, gan gynnwys y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a’i olynydd, fod yn rhaid cydnabod TAN 8 a pharchu’r capasiti cyfyngedig o ran yr amgylchedd a nodir yn TAN 8 yn 2005.
Eglurodd i’r awdurdodau cynllunio, wrth ystyried ceisiadau cynllunio sy’n gysylltiedig ag ynni yng Nghymru (ar wahân i rai gosodiadau ynni penodol), fod yn rhaid iddyn nhw gyfeirio at gynllun datblygu mabwysiedig yr awdurdod cynllunio lleol, ac os yn fwy diweddar, at Bolisi Cynllunio Llywodraeth Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 8.
Meddai:
“Bydd ein lles yn y dyfodol, yn faterol ac yn gymdeithasol, yn ddibynnol ar gael cyflenwadau digonol o ynni rhad-ar-garbon fforddiadwy.
“O’i wneud yn llwyddiannus, bydd hyn yn gwella ein lles economaidd, yn gwella’r amgylchedd ac yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol allweddol fel tlodi tanwydd. Rydym yn bwriadu cydweithio â’n prif bartneriaid i gyflawni hyn.”











