Mae Pennod 7, Cynnal yr Economi, wedi cael ei hailddrafftio i’w chysoni’n well â pholisïau Llywodraeth Cymru ar gefnogi adferiad yr economi. Yn arbennig, mae’r polisi yn disgrifio cyd-destun y gwaith mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei wneud ar gynlluniau datblygu lleol ac yn sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer yr economi gyfan. Bydd disgwyl i awdurdodau cynllunio lleol greu sylfaen o dystiolaeth gyfoes am eu heconomïau lleol. Bydd disgwyl iddynt eu deall a deall eu rôl yn yr economïau rhanbarthol ehangach.
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths:
“Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o ddefnyddio pob polisi posibl i gefnogi adferiad yr economi yng Nghymru. Mae hynny’n golygu’n rhannol gwneud yn siwr bod ein polisïau cynllunio wedi’u halinio â pholisïau economaidd eraill i wneud yn siwr bod y system gynllunio’n cefnogi adferiad yr economi.
“Mae’r newidiadau arfaethedig i Bolisi Cynllunio Cymru’n rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio lleol ar y rôl bwysig y dylent eu rhoi i ystyriaethau economaidd yn y broses gynllunio a phenderfynu.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad hwn yn sbarduno trafodaeth ac yn arwain at gyflwyno amrywiaeth eang o safbwyntiau. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb ym mholisi cynllunio Cymru i gyfrannu.
“Bydd yr ymgynghoriad hwn yn bwydo gwaith y Grŵp Cynghori Annibynnol sydd wrthi’n edrych ar gynllunio yng Nghymru a’r gwaith cysylltiedig gafodd ei gomisiynu ar Rhanbarthau Dinesig.”
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn para 14 wythnos a dylid cyflwyno sylwadau erbyn 5 Mawrth 2012.











