O’r 31 Rhagfyr 2011 bydd y cyfrifoldeb dros reoliadau adeiladu yn cael eu trosglwyddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru. Llywodraeth Prydain fu’n gyfrifol amdanynt cyn hyn.
Meddai’r Gweinidog:
"Dwi’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoliadau adeiladu o’r 31 Rhagfyr. Un o’n camau cyntaf fydd codi safonau perfformio ar gyfer ynni mewn cartrefi newydd.
"Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon yr amgylchedd adeiledig, a symud i safonau adeiladu fydd yn cynnig tai sy’n defnyddio ynni yn llawer mwy effeithiol.
"Rydyn ni wedi gwneud ymdrechion sylweddol eisoes i gyflawni’r amcanion hyn trwy ein polisïau cynllunio; fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod mai rheoliadau adeiladu fydd un o’r prif ffyrdd o’n helpu i gyrraedd ein hamcanion.
"Nawr fod gan Gymru gyfrifoldeb dros bennu ei rheoliadau adeiladu ei hun, byddwn yn gweithio i wneud newidiadau fydd yn ein galluogi i gynnig gwelliant o 55% ar ofynion 2006 ar gyfer cartrefi newydd.
"Bydd hyn nid yn unig yn helpu inni leihau allyriadau carbon yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru, bydd hefyd yn golygu cartrefi newydd sy’n llawer cynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu."
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid i lywio ei chynigion am safonau uwch ar gyfer cartrefi newydd a chartrefi presennol ac adeiladau annomestig. Mae disgwyl i Weinidog yr Amgylchedd ymgynghori ar y cynigion hyn ym mis Mawrth 2012.











