Cyhoeddodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith i ymchwilio i sut mae’r broses ganiatáu ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.
Nod yr ymchwil fydd creu sylfaen dystiolaeth a dod o hyd i unrhyw ffactorau a allai fod yn oedi’r broses o roi caniatâd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy.
Mae’r ymchwil hon yn ymateb i honiadau rhai pobl bod y system gyfredol wedi cyfyngu ar ddatblygu nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy a’i bod yn cyfrannu at ymdeimlad o ansicrwydd.
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd:
“Ynni adnewyddadwy yw’r dyfodol; ni fydd yn dod i ben, bydd yn ein helpu i allyrru llai o garbon ac nid yw’n dibynnu ar ffactorau, fel cyflenwad olew, sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau mai Cymru sydd ar flaen y gad o ran trosglwyddo i economi carbon isel a’i bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a gwaith cysylltiedig.
“Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod yr holl bolisïau a phrosesau ategol yn eu lle i gefnogi sector ynni adnewyddadwy ffyniannus.
“Wrth wneud hyn, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth yn benodol i’r broses gynllunio a phrosesau caniatáu eraill, felly mae’n rhaid inni edrych i weld a yw prosiectau ynni adnewyddadwy’n cael eu hoedi’n ddiangen oherwydd y prosesau hyn, ac a ydyn nhw’n addas i gefnogi ein dyheadau ynni gwyrdd. Unwaith ein bod yn deall y materion yn llwyr, gallwn fynd ati wedyn i gymryd camau prydlon ac effeithiol i fynd i’r afael â’r materion hynny sydd o dan ein rheolaeth.
“Rydyn ni bellach wedi penodi Hyder Consulting i gynnal yr ymchwil hon ar ein rhan. Unwaith y bydd y cwmni wedi nodi ei ganfyddiadau, byddant yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’n gwaith ehangach i adolygu’r system gynllunio yng Nghymru.”
Bydd dau gam i’r ymchwil. Dylai adroddiad ar ganfyddiadau cam 1 gael ei baratoi erbyn diwedd mis Mawrth eleni gyda chanfyddiadau cam 2 yn debygol o gael eu cyhoeddi erbyn canol mis Gorffennaf.
Cafodd y contract ar gyfer y prosiect ymchwil ei ddyfarnu i Hyder Consulting o ganlyniad i ddilyn Fframwaith Caffael Yn Ôl Y Gofyn Llywodraeth Cymru a oedd eisoes wedi’i sefydlu.











