Dyna oedd neges John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, wrth siarad yn y cyfarfod llawn ynghylch gwaith parhaus y Llywodraeth i adolygu'r polisi cynllunio er mwyn rhoi cymorth gwell i adfer economi Cymru.
Wrth drafod y mater yn y cyfarfod llawn, dywedodd y Gweinidog:
"Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod Cymru yn gwrthsefyll yr heriau economaidd cyfredol. I wneud hyn, mae'n rhaid cyflwyno polisïau a phrosesau sy'n cefnogi swyddi ac sy'n rhoi hwb i adferiad economaidd.
"Rydyn ni'n gwybod bod y system gynllunio yn gallu chwarae rhan hollbwysig yn yr adferiad economaidd drwy greu mwy o sicrwydd ar gyfer buddsoddi. Dyma pam yr ydyn ni wedi cyflwyno newidiadau i'r system gynllunio neu'n ymgynghori arnynt, fel y bydd yn system gyflymach, fwy hyblyg a mwy cyson."
Eisoes, agorwyd ymgynghoriad cyhoeddus sy'n ceisio barn ynghylch newidiadau arfaethedig i destun Polisi Cynllunio Cymru sy'n ymwneud â datblygu'r economi.
Meddai'r Gweinidog:
“Mae'n bwysig bod ein system gynllunio yn cefnogi'r economi gyfan, gan gynnwys y sector gwasanaethu, yr economi werdd a sectorau mwy traddodiadol fel gweithgynhyrchu a diwydiant trwm.”
Anogodd Gweinidog yr Amgylchedd awdurdodau lleol i chwarae eu rhan yn y broses hon a chydweithredu i nodi cyfleoedd allweddol, a chynllunio mewn ffordd fwy strategol i helpu i sicrhau'r twf economaidd sydd ei angen yng Nghymru.
Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod ganddynt Gynlluniau Datblygu Lleol diweddar ar waith. Llongyfarchodd y pum awdurdod sydd eisoes wedi mabwysiadu eu cynlluniau, a'r 11 awdurdod arall sy'n cymryd camau pwysig i'w mabwysiadu.
Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog ei fod yn siomedig bod rhai o'r awdurdodau cynllunio yn parhau i fod yn araf yn gweithredu o ran eu cynlluniau datblygu lleol a bod hyn yn dal yr economi leol ac economi ehangach Cymru yn ôl.
Ymhlith y gwaith pwysig arall sydd eisoes yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella'r system gynllunio yng Nghymru mae:
- Sicrhau bod y broses ceisiadau cynllunio mor gymesur, syml ac effeithlon â phosibl
- Bil Cynllunio i gydgrynhoi'r ddeddfwriaeth gyfredol a gwneud y system gynllunio yn fwy effeithiol, tryloyw a hwylus. Y bwriad yw paratoi papur gwyn ar hyn yn 2013
- Sefydlu Grŵp Cynghori Annibynnol i ystyried yr opsiynau ar y ffordd orau o gynnal y system gynllunio yn y dyfodol a 'galw am dystiolaeth' i lywio'r gwaith hwnnw.











