Cyhoeddodd hefyd fod canlyniadau dadansoddiad o gost a budd gan BRE Global ynghylch y cynnig wedi’u cyhoeddi. Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Daw’r adroddiad i’r casgliad y bydd cyflwyno systemau chwistrellu yn lleihau risg marwolaeth ac anafiadau ynghyd â difrod i eiddo.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae’n rhaid i ni geisio atal marwolaethau ac anafiadau sy’n deillio o danau mewn tai, gan dderbyn y bydd cost ynghlwm â gosod systemau chwistrellu mewn eiddo newydd.”
“Mae’r cynigion hyn yn arwyddocaol ac yn bwysig wrth hybu diogelwch tân. Bydd Cymru ar flaen y gad wrth leihau’r risg tân a lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau y gellid eu hosgoi a achosir gan dân mewn eiddo preswyl.”
Bydd y rheoliadau’n dechrau cael eu datblygu maes o law a bwriedir ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y gofynion technegol angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’r Mesur.
Yn ôl ystadegau’r DU ynghylch tân (2001 hyd 2010) mae 2,168 o danau, 17 o farwolaethau a 503 o anafiadau yn sgil tân mewn eiddo preswyl yng Nghymru bob blwyddyn.











