Roedd y Gweinidog yn siarad yng nghynhadledd flynyddol Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru ac fe roddodd anerchiad i’r gynulleidfa ar welliannau i’r system gynllunio, gyda’r bwriad o’i gwneud yn haws i’w llywio.
Yr ychwanegiad diweddaraf i’r gwelliannau yw canllaw ymarfer wedi ei gynllunio i annog pobl sy’n cyflwyno ceisiadau cynllunio i drafod eu cynlluniau gyda’u hawdurdod lleol cyn eu cyflwyno.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i wella’r broses gynllunio ac i’w gwneud mor rhwydd i’w defnyddio ac mor gyflym â phosibl.”
“Mae’r canllaw hwn rwyf yn ei lansio heddiw yn annog awdurdodau cynllunio lleol a’r rheini sy’n gwneud ceisiadau i drafod eu cynigion yn ofalus cyn bod unrhyw gais cynllunio’n cael ei gyflwyno’n ffurfiol.
“Fe’i lluniwyd i gefnogi’r ddwy ochr drwy’r broses hon ac i helpu sicrhau bod y cwestiynau cywir yn cael eu gofyn a’u hateb. Y bwriad yw gwella ansawdd ceisiadau cynllunio, lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i ddelio â nhw a helpu defnyddwyr i osgoi'r gost a’r oblygiadau amser o orfod cyflwyno cyfres o geisiadau. Bydd hefyd o fudd i ymgyngoreion, gan gynnwys cymunedau cyfagos, gan y dylai leihau y nifer o newidiadau i geisiadau sydd wedi eu cyflwyno.”
Fis diwethaf fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru becyn o newidiadau cynllunio. Roedd hyn yn cynnwys Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu newydd ar gyfer Cymru oedd yn cydgrynhoi gweithdrefnau ar gyfer delio â cheisiadau cynllunio.
Mae’r Gweinidog yn awyddus hefyd i ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ac wedi cyflwyno rheoliadau sy’n ymestyn y math o gyfarpar microgynhyrchu y gellir ei osod mewn cartrefi er mwyn cynyddu cynhyrchiad ynni adnewyddadwy mewn cartrefi. Daw’r rhain i rym ar 18 Mehefin.
Yn ystod ei araith fe wnaeth y Gweinidog ddiweddaru’r gynhadledd ar y cynnydd tuag at gyflwyno Bil Cynllunio. Adroddodd iddo sefydlu Grŵp Cynghori Annibynnol hydref llynedd er mwyn adrodd ar ddewisiadau posib ar gyfer cyflwyno’r Bil Cynllunio ac y byddai’r Grŵp yn adrodd ar ei ddarganfyddiadau fis nesaf.
Esboniodd y Gweinidog hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu nifer o astudiaethau ar wahanol agweddau o’r system gynllunio er mwyn ategu’r gwaith hwn ac y byddai adrodd nôl ar hyn yn digwydd erbyn yr haf.
Yn dilyn hyn bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori rhanddeiliaid er mwyn ymgynghori ar ei Bapur Gwyn Cynllunio. Mae hyn i’w gyhoeddi yn 2013.
Mae gwaith i gyflwyno Bil Cynllunio yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu wedi ei amcanu at greu mannau cynaliadwy ar gyfer pobl.











