Amcan y polisi newydd, sy’n gymwys i geisiadau a wneir ar 30 Gorffennaf neu ar ôl hynny, yw lleihau nifer y ceisiadau cynllunio sy’n cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru’n ddiangen. Dylai’r cyfeiriad newydd greu system gynllunio mwy effeithlon a dylai fod o fudd i’r diwydiant adeiladu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Rhwng 2005 a 2010, dim ond 15% o’r ceisiadau a gyfeiriwyd at Weinidogion Cymru a gafodd eu galw i mewn gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud penderfyniad.
Bydd y newid hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ganolbwyntio ar geisiadau a allai fod o bwys rhanbarthol neu genedlaethol.
Yn y dyfodol, ni fydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ond gyfeirio’u ceisiadau am fathau penodol o ddatblygiadau at Weinidogion Cymru, sef:
- datblygiadau mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd;
- datblygiadau preswyl sy’n fwy na rhyw faint penodol;
- datblygiadau mwynau;
- datblygiadau yn ymwneud â gwastraff;
- datblygiadau sy’n cynnwys tynnu agregau o fannau newydd neu fannau sy’n bodoli eisoes o fewn
- Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
"Bydd y cyfeiriad newydd hwn yn helpu i symleiddio’r system bresennol a sicrhau agwedd mwy cyson ymhlith yr awdurdodau cynllunio lleol.
"Trwy leihau nifer y ceisiadau sy’n cael eu cyfeirio atom ni, bydd yr awdurdodau lleol yn gallu cynnig gwasanaeth mwy effeithlon i’r cwmnïau datblygu a phreswylwyr.
"Yr awdurdodau cynllunio lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu canlyniad ceisiadau am ddatblygiadau lleol a bydd y cyfeiriad newydd hwn yn golygu y byddant yn gallu prosesu mwy o achosion, a bydd yn cwtogi ar oedi costus.
"Bydd y newidiadau hefyd yn golygu y gall Gweinidogion Cymru roi mwy o sylw i’r prosiectau hynny sy’n effeithio ar nifer o awdurdodau lleol."











