Mae undebau credyd yn fodd diogel a dibynadwy o fenthyg a chynilo arian. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yng Nghymru yn aelodau o undebau credyd ac nid yw pobl yn deall beth yn union yw undebau credyd na pha gymorth a chyngor y gallan nhw eu rhoi.
Er mwyn helpu i ddatrys y sefyllfa hon, mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, wedi lansio ymgyrch Cymru gyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o undebau credyd yng Nghymru. Roedd y Gweinidog yng nghanol Caerdydd gydag aelodau Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro i ddatgelu brand newydd Undebau Credyd Cymru a siarad â siopwyr am fanteision ymuno ag Undeb Credyd.
Meddai Dr Gibbons:
"Dros y degawd diwethaf mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi pwyslais mawr ar undebau credyd ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol, yn bennaf oherwydd y rôl y maen nhw'n ei chwarae fel darparwyr gwasanaethau cynilo fforddiadwy a benthyciadau rhad.
"Nawr mae gan bob rhan o Gymru undebau credyd, ac mae modd i bawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru fod yn aelod o undeb o’r fath. Er gwaethaf hynny dim ond 1.83% o'r farchnad sydd wedi ymuno ag undeb o'i gymharu â 5.58% yn yr Alban.
"Mae recriwtio aelodau newydd yn her barhaus. Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y cyhoedd, yn enwedig y rheini ar incwm isel, yn fwy ymwybodol o undebau credyd. Mae hefyd ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector sy'n gallu helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith eu staff a'u cleientiaid. Mae brand Cymru gyfan, Undebau Credyd Cymru, wedi'i ddatblygu, gyda'r rhif ffôn am ddim 0800 496 0865 neu'r wefan www.wales.gov.uk/creditunions i gael rhagor o wybodaeth.
"Hoffwn gyfleu'r neges bod undebau credyd yn ddibynadwy; yn yr hinsawdd economaidd gyfredol maen nhw'n cynnig benthyciadau â gwerth arbennig ac yn gallu helpu cleientiaid i ofalu am eu harian; yr aelodau sy'n berchen ar yr undeb yn hytrach na rhanddeiliaid allanol sydd am wneud elw. Rheoleiddir yr Undebau yn llwyr gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol. Byddwn yn annog pawb i ymuno â'u hundeb credyd lleol, nid dim ond y rheini heb arian neu heb lawer o arian,"
11 Tachwedd 2009











