Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella badau achub ac offer amddiffyn personol, a fydd yn gwella’n sylweddol allu’r gwasanaethau tân ac achub i ymateb i achosion llifogydd brys a chydlynu’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru â’r safonau cenedlaethol ar gyfer achub o ddŵr.
Meddai Dr Gibbons:
“Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld effeithiau llifogydd difrifol gyda difrod i gartrefi, busnesau, cymunedau, ac yn fwyaf trychinebus, dau berson yn marw yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i helpu’r gwasanaethau tân ac achub a’u partneriaid, fel Awdurdodau Lleol, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a’r RNLI i ddatblygu strategaeth achub mewn llifogydd i Gymru. Bydd y £500,000 hwn yn rhoi hwb pwysig i’r broses drwy ddarparu badau ac offer ychwanegol i’r gwasanaethau tân ac achub.”
Meddai Paul Bates, Prif Swyddog Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac arweinydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân yng Nghymru ar gyfer achub o ddŵr:
“Mae’r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn amlwg yn hynod o falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n buddsoddi yn ein gallu i achub o ddŵr. Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gryfhau gallu’r gwasanaeth i ymateb i sefyllfaoedd peryglus iawn, gan wella diogelwch ein staff a’r cyhoedd fel ei gilydd.”
26 Tachwedd 2009











