Bydd hyd at 40 o swyddi newydd yn cael eu creu gan raglen fuddsoddi Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, a fydd yn helpu bron i 100 o sefydliadau i ddatblygu i fod yn fentrau cymdeithasol ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau.
Bydd grwpiau cymunedol a thrydydd sector ymysg y grwpiau fydd yn cael cymorth gyda chostau cychwynnol, ailwampio adeiladau a chostau staffio er mwyn eu galluogi i ddatblygu i fod yn fentrau cymdeithasol.
Y nod yw cynnig mwy o wasanaethau cymunedol, yn arbennig lle mae bwlch yn y ddarpariaeth, megis hyfforddiant, gofal plant a mentrau cydweithredol bwyd.
Caiff y swyddi newydd eu creu o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y staff y bydd eu hangen o fewn y sefydliadau sy'n cael y cymorth hwn.
Cefnogir Cynllun Datblygu Mentrau Cymdeithasol y Meysydd Glo gan £900,000 o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae arian cyfatebol wedi'i roi gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo.
Wrth gyhoeddi'r prosiect, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio Leighton Andrews:
"Mae gan fentrau cymdeithasol rôl ganolog i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau i bobl leol, gan helpu i adfywio cymunedau a chreu cyfoeth lleol."
"Bydd y prosiect hwn yn helpu i sefydlu mentrau cymdeithasol cynaliadwy a ffyniannus ac yn dangos ein hymrwymiad i greu sefyllfa a all fod o fantais i gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd."
Bydd y cynllun hefyd yn cynnig cymorth gyda chynllunio busnes, cyfarpar TG, gwelliannau i isadeiledd TG a dylunio gwefannau i baratoi sefydliadau i wasanaethu eu cymunedau'n well.
Dywedodd Siân Sykes, Rheolwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo:
"Yn ystod y degawd diwethaf rydym wedi helpu i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd a arferai fod yn ardaloedd glofaol drwy ystod eang o raglenni.
"Rydym yn gweithio yng nghanol y cymunedau, gan fuddsoddi adnoddau, arbenigedd a gwybodaeth i sicrhau y gall pobl leol gyflawni eu potensial. Mae'r fenter newydd hon, sy'n anelu i roi mwy o fentrau cymdeithasol gyda gwell adnoddau nag erioed o'r blaen, yn ymgorffori popeth amdanom."
2 Rhagfyr 2009











