Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhagor yn cael manteisio ar y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post

Mae saith deg pump o Swyddfeydd Post eraill wedi cael cyfanswm o £1.5 miliwn o’r Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post  - dyna a gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews AC, heddiw [dydd Llun Rhagfyr 7].
Dydd Llun 07 Rhagfyr 2009
Leighton Andrews

Bydd y cyllid yn creu 57 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn swyddfeydd post ledled Cymru. Hwn yw’r ail gylch cyllido, gyda’r nod o helpu is-bostfeistri i arallgyfeirio a gwella eu Swyddfeydd Post. Roedd cyfanswm o £1.1. miliwn wedi’i ddyfarnu eisoes i chwe deg tri o swyddfeydd post ym mis Gorffennaf.

Mae’r gronfa hon o £4.5 miliwn, a fydd yn agored am dair blynedd ac ar gael i bob is swyddfa’r post yng Nghymru, yn cynnig cymorth busnes a chyngor ar farchnata, hysbysebu, hyfforddiant a rhai o gostau sefydlu gwasanaethau newydd. Yn ogystal, gellir defnyddio’r cyllid i wella’r mynediad i adeiladau,  prynu cyfarpar cyfrifiadurol newydd, gwella diogelwch neu ddarparu arwyddion gwell tu allan i’r swyddfeydd post.

Yn Swyddfa Post y Glais ger Abertawe y gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad, a chafodd gyfle yno i weld sut y defnyddiwyd  yr arian arallgyfeirio i gynnal gwaith ailwampio ac agor becws ar y safle.

Mae deuddeg o Swyddfeydd Post wedi cael grantiau o hyd at £5,000 yr un ar gyfer mân brosiectau cyfalaf megis offer aerdymheru neu systemau diogelwch newydd ac mae chwe deg tri o swyddfeydd wedi cael hyd at £20,000 yr un i gynnal prosiectau mwy, megis adnewyddu’r adeilad, gwella mynediad neu osod cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau newydd. Dyfarnwyd hyd at £15,000 o gyllid refeniw i dri deg pedwar o’r Swyddfeydd Post hefyd, er mwyn eu helpu i gyflogi staff newydd neu gynyddu oriau’r staff i ddarparu rhagor o wasanaethau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Yn aml iawn, Swyddfa’r Post yw calon y gymuned, ac rydym ni fel llywodraeth bob amser wedi cydnabod eu gwerth – yn enwedig o ran cefnogi pobl agored i niwed a darparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau mwyaf ynysig a difreintiedig.

“Rwy’n falch dros ben bod cynifer o Swyddfeydd Post ym mhob rhan o Gymru wedi gallu manteisio ar y gronfa hon, a  braf yw gweld bod yr arian eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau a chymunedau fel ei gilydd. Mae’r busnesau hyn yr ydym yn eu cefnogi yn enghreifftiau rhagorol o’r modd y gall Swyddfeydd Post ddarparu pob math o wasanaethau eraill, ac rwy’n hapus iawn ag amrywiaeth y prosiectau sydd ar y gweill.

Yn y Glais, mae becws newydd y Swyddfa Post yn ychwanegiad gwerth chweil. Un o’r prosiectau eraill yr wyf wedi’u gweld yw caffi rhyngrwyd, sydd, yn ogystal â helpu i sicrhau dyfodol hirdymor y swyddfa post, yn cynnig adnodd gwerthfawr i’r gymuned ac yn ei gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein os nad oes ganddynt gyfrifiadur gartref.

Dywedodd Huw Roberts, Cyfarwyddwr Materion Cymreig y Post Brenhinol:

“Mae un o bob saith Swyddfa Post wedi cael cymorth gan y Gronfa hon bellach. Rydym yn falch iawn i gydweithio â Llywodraeth y Cynulliad ar gynllun fel hwn, sy’n dod â budd i’r gymuned ac yn ychwanegu at y gwasanaeth a ddarparwn.”

7 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 07 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i