Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos i nifer y tanau yng Nghymru, yn ogystal â nifer y bobl a gafodd eu hanafu a'u lladd oherwydd tanau, gwympo rhwng 2007 a 2008.
Mae’r ffigurau allweddol yn cynnwys:
- Gostyngiad o 9% yn nifer y tanau yng Nghymru rhwng 2007 a 2008, o 7,800 i 7,100
- 19 o farwolaethau oherwydd tanau yn 2008, o’i gymharu â 26 yn 2007
- Gostyngiad o 4% yn nifer y galwadau ffug maleisus i’r gwasanaeth tân yng Nghymru ers 2007, i 1,460 yn 2008
- Nid oedd larymau mwg wedi’u gosod yn achos 38% o’r 2,300 o danau mewn anheddau yng Nghymru
- Yn 2008, cafodd y rhan fwyaf o danau damweiniol eu hachosi trwy gamddefnyddio offer neu gyflenwadau tanwydd diffygiol
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy’n croesawu’r ystadegau hyn. Maen nhw’n dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, llai o anafiadau a marwolaethau oherwydd tanau.
“Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu gwaith caled, proffesiynoldeb a dewrder ein diffoddwyr tân. Rhaid imi dalu teyrnged i Wasanaethau Tân ac Achub Cymru, sydd mor ddiflino yn eu hymdrechion i ddiogelu pobl Cymru.
“Er eu bod yn gostwng, mae nifer y galwadau ffug maleisus yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Mae galwadau ffug yn gwastraffu amser gwerthfawr cysylltwyr ffôn ein gwasanaethau brys, yn defnyddio adnoddau hollbwysig, ac yn peryglu bywydau’r bobl sydd angen cymorth brys.
“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn galonogol. Gobeithio y byddan nhw’n parhau i gwympo yn y dyfodol.”











