Nod y Prosiect Cymorth i Fentrau Cymdeithasol, sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw ysgogi mentrau cymdeithasol drwy godi ymwybyddiaeth o sut y maent yn gweithio a chydnabod eu cyfraniad i adfywio economaidd a chymdeithasol.
Bydd cyfanswm o 45 o fentrau cymdeithasol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy yn derbyn mwy o gymorth gan gynnwys cyngor ar farchnata, cyllid, materion cyfreithiol, cynllunio busnes a datblygu staff.
Mae’r prosiect yn ategu’r ddarpariaeth cymorth busnes sydd eisoes yn gweithredu yn yr Ardal Gydgyfeirio o Orllewin Cymru a’r Cymoedd a bydd yn creu 15 o fentrau cymdeithasol newydd a 9 o swyddi newydd.
Dywedodd Carl Sargeant,
“Mae model busnes Mentrau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy pwysig i’r economi, yn gymdeithasol ac yn foesegol. Er bod angen i fentrau cymdeithasol wneud elw, fel unrhyw fusnes traddodiadol arall, yn aml caiff eu helw ei ail-fuddsoddi yn y busnes a’i ddefnyddio er budd y gymuned leol a’u staff yn hytrach na mynd i bocedi’r rhanddeiliaid.
“Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru lle ceir nifer cyfyngedig o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant neu wasanaethau. Rhaid i ni sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu a thyfu.”
Yn ogystal, mae Carl Sargeant wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi’r Prosiect Consortia Cydweithredol ac Olyniaeth Busnes, sydd wedi derbyn £100,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r prosiect yn helpu sawl busnes i gydweithio â’i gilydd i greu sylfaen busnes cryfach, er mwyn iddynt allu gwneud cais am gontractau mwy na fyddent yn gallu gwneud yn unigol.
Mae’r prosiect hefyd yn rhoi cymorth a chyngor i weithwyr i brynu rhan a rheoli‘u man gwaith, os yw mewn perygl o gau.
I ddathlu Diwrnod Menter Gymdeithasol bydd y Gweinidog yn ymweld â Grow Enterprise Wales ym Mhontypridd ddydd Iau. Cymdeithas dai leol sy’n berchen ar Grow ac mae’n cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd mynd at y farchnad swyddi.
Ychwanegodd y Gweinidog “Rwy’n falch iawn o gefnogi mentrau cymdeithasol Cymru drwy’r ddau brosiect hwn, yn enwedig yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiectau yn annog darpar entrepreneuriaid ar draws y wlad i ystyried dechrau busnesau tebyg er budd y gymuned leol.”











