Mae’r strategaeth yn pennu sut y bydd gwasanaethau tân ac achub Cymru yn addysgu plant am beryglon tân a digwyddiadau sy’n ymwneud â thanau. Y mae hefyd yn ceisio annog plant a phobl ifanc rhag peidio â thorri’r gyfraith nac ymddwyn yn wrthgymdeithasol, a hynny mewn perthynas â than, er enghraifft drwy wneud galwadau ffug neu gynnau tân bwriadol.
Lansiwyd y strategaeth gan Carl Sargeant yng Ngorsaf Dân Prestatyn lle gwnaeth gyfarfod â Chymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc.
Dywedodd y Gweinidog,
“Mae’n bosibl bod plant a phobl ifanc, sydd â chwilfrydedd naturiol, yn teimlo rhyw fath o reidrwydd i arbrofi gyda thân, a hynny heb roi unrhyw ystyriaeth i’r peryglon. Rhaid cau pen y mwdwl ar ymddygiad o’r fath cyn dechrau cyn iddo arwain at bethau mwy difrifol.
“Yn ystod fy amser fel diffoddwr tân diwydiannol, gwelais â’m llygaid fy hun y difrod anferth a ddaw yn sgil tân. Mae’n hanfodol bod ein pobl ifanc yn gwybod beth yw’r peryglon a’u bod yn cael eu hannog i fod yn ddiogel ac ymddwyn yn briodol o amgylch tanau. Dyma’n union beth yw nod y strategaeth.”
Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
"Rydym yn falch iawn bod y Strategaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn cael ei lansio ym Mhrestatyn wrth i ni edrych am ffyrdd o weithio gyda phlant a phobli ifanc er mwyn eu haddysgu am beryglon tanau.
“Mae gennym nifer o gynlluniau ymyriadau ieuenctid o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi’u hanelu at wella ansawdd bywydau pobl ifanc yn y rhanbarth.”











