Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arian ychwanegol ar gyfer elusennau cam-drin domestig

Heddiw [dydd Llun 20 Rhagfyr], cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, y bydd cyfanswm o 18 o sefydliadau sy'n helpu dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru yn elwa ar £2.5 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Llun 20 Rhagfyr 2010

Bydd sefydliadau ledled y wlad yn defnyddio'r arian i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a'u plant, yn enwedig ar lefel leol.

Mae'r arian diweddaraf hwn yn ychwanegol at y £4.3 miliwn sydd eisoes wedi'i wario ar wasanaethau cymorth cam-drin domestig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fel rhan o'r arian, gallai dioddefwyr cam-drin domestig yng Ngwynedd gael larymau diogelwch a dyfeisiau diogelwch eraill wedi'u gosod yn eu cartrefi, a fyddai'n caniatáu iddynt aros gartref yn hytrach na cheisio lloches rywle arall. Bydd sefydliadau ar Ynys Môn ac ym Mro Morgannwg yn defnyddio'r arian i gynnal rhaglenni i adsefydlu'r rheini sy'n cam-drin a'u helpu i ailadeiladu eu bywyd teuluol.

Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Gweinidog Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant:

"Mae cam-drin domestig yn effeithio ar bob aelod o'r teulu, o'r unigolyn sy'n dioddef yn uniongyrchol i'r plant sy'n gweld yr ymddygiad treisgar. Ddylai neb deimlo dan fygythiad neu ofn yn eu cartref eu hunain, a dw i wedi ymrwymo i helpu dioddefwyr ym mhob ffordd bosibl.

"Mae'r sefydliadau hyn yn gweithio'n ddiflino i amddiffyn dioddefwyr a'u helpu i ailadeiladu eu bywydau. Mae eu gwaith yn ysbrydoliaeth, ac mae llawer o ddulliau arloesol yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â cham-drin domestig, fel gosod dyfeisiau diogelwch sy'n caniatáu i ddioddefwyr fyw'n ddiogel yng nghysur eu cartrefi hunain.

"Y mis diwethaf, addewais ddiogelu'r gyllideb ar gyfer cam-drin domestig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r arian ychwanegol hwn yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod darparwyr y gwasanaethau'n cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i helpu i wella dioddefwyr ac ailadeiladu eu bywydau."  

Dan y cyhoeddiad diweddaraf hwn am arian, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i roi £2,538,217 ychwanegol i sefydliadau cymorth cam-drin domestig yn ystod 2010-11.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 20 Rhagfyr 2010 Diogelwch cymunedol Cam-drin domestig Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i