Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn dweud “Does dim esgus”

Cafodd ymgyrch i herio diwylliant o roi'r bai ar y dioddefwr ei lansio wrth i gyfres o hysbysebion newydd gael eu darlledu ar y radio.
Dydd Llun 20 Rhagfyr 2010

Nod yr ymgyrch hon yw chwalu'r chwedl bod dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am y troseddau erchyll y maen nhw'n eu dioddef.

Gall dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol fod yn anfodlon cofnodi'r drosedd rhag ofn i bobl feddwl mai nhw sy’n gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Nod yr ymgyrch yw rhoi terfyn ar yr agwedd hon drwy ddangos i ddioddefwyr, troseddwyr a'r cyhoedd mai’r ymosodwr yn unig sydd ar fai, nid y dioddefwr.

Meddai Gweinidog Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant:

"Dyw dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol ddim yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw. Dyw esgusodion fel 'roedd hi wedi meddwi'n rhacs' neu 'roedd hi'n gofyn amdani' ddim yn dderbyniol o gwbl. Fe all yr agwedd hon fod yn hynod niweidiol i'r dioddefwyr ac mae'n rhaid i ni roi terfyn arni nawr.

"Does dim unrhyw esgus yn y byd sy'n cyfiawnhau trais neu ymosodiad rhywiol a ddylai'r dioddefwr byth gael y bai."

Dywedodd Paula Hardy, Prif Weithredwr Welsh Women’s Aid:

"Mae Cymorth i Ferched Cymru a sefydliadau sy'n brwydro trais yn erbyn menywod yng Nghymru wedi bod yn gweithio’n agos â Llywodraeth y Cynulliad wrth ddatblygu'r ymgyrch. Rydym yn croesawu'r lansiad, sy'n herio’r arfer o feio’r dioddefwyr, ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at gyfiawnder a chymorth gwell i oroeswyr trais ac ymosodiadau rhywiol."

Caiff ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru ei lansio ddydd Gwener 17 Rhagfyr gyda chyfres o hysbysebion radio, posteri y tu allan a hysbysebu ar-lein. Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan y wefan stopblame.org sy'n ceisio herio'r diwylliant o roi'r bai ar y dioddefwr ac sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i ddioddefwyr.

Dywedodd Carl Sargeant wrth ddioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol hefyd:

"Os yw rhywun wedi'ch treisio neu ymosod yn rhywiol arnoch chi, cofiwch nad chi sydd ar fai. Mae cymorth ar gael ac mae'n hanfodol siarad â rhywun cyn gynted â phosib am yr hyn yr ydych chi wedi bod drwyddo ac i gael y cyngor sydd ei angen arnoch chi i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach. Ewch i wefan yr ymgyrch i weld sut y gallwch gael cymorth."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig

Gwefannau

stop blame

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 20 Rhagfyr 2010 Diogelwch cymunedol Gostwng troseddu Cam-drin domestig Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i