Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gorsaf radio o’r cymodd yn cael £94,000

Mae gorsaf radio o’r cymoedd wedi cael dros £94,000 o gyllid er mwyn gallu parhau i ddarlledu ar draws Rhondda Cynon Taf diolch i grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Llun 20 Rhagfyr 2010

Mae GTFM wedi sicrhau £94,495 o gyllid gan Gymunedau yn Gyntaf i’w helpu gyda’r costau o redeg yr orsaf ac i greu mwy o refeniw marchnata.  Hefyd, bydd yr arian yn helpu staff i barhau gyda’i rhaglen wirfoddol lwyddiannus gan helpu darpar gyflwynwyr i ddysgu sgiliau darlledu ac i gael profiad o ddarlledu ar yr awyr.

Mae’r orsaf radio wedi bod yn darlledu o’i lleoliad yn Rhydfelen ers 2002 a dyma’r unig orsaf radio sy’n darlledu’n llawn-amser yn Rhondda Cynon Taf.  Gall gwrandawyr o Bontypridd i Gwm Taf a Chwm Rhondda wrando ar yr orsaf 24 awr y dydd.  

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant:

“Mae gorsafoedd radio cymunedol fel GTFM yn cynnig gwybodaeth leol i bobl leol.  Yn aml, mae’r rhaglenni’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, gwybodaeth gyfredol a gwyobdaeth sy’n berthnasol ac mae'r gwrandawyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd a lle mae’n digwydd ar lefel leol.

“Hefyd, gall yr orsaf leol fod yn droed yn y drws i bobl sydd â’u bryd ar fod yn gyflwynwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y cyfryngau ac mae’n dda gennyf glywed bod oddeutu 80 o wirfoddolwyr yn cymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael yn sgil gorsaf radio GTFM.

“Mae GTFM yn enghraifft wych o gyllid Cymunedau yn Gyntaf yn cyflawni i bobl leol.”

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella amodau byw a chreu cyfleoedd i bobl sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 20 Rhagfyr 2010 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i