Mae GTFM wedi sicrhau £94,495 o gyllid gan Gymunedau yn Gyntaf i’w helpu gyda’r costau o redeg yr orsaf ac i greu mwy o refeniw marchnata. Hefyd, bydd yr arian yn helpu staff i barhau gyda’i rhaglen wirfoddol lwyddiannus gan helpu darpar gyflwynwyr i ddysgu sgiliau darlledu ac i gael profiad o ddarlledu ar yr awyr.
Mae’r orsaf radio wedi bod yn darlledu o’i lleoliad yn Rhydfelen ers 2002 a dyma’r unig orsaf radio sy’n darlledu’n llawn-amser yn Rhondda Cynon Taf. Gall gwrandawyr o Bontypridd i Gwm Taf a Chwm Rhondda wrando ar yr orsaf 24 awr y dydd.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant:
“Mae gorsafoedd radio cymunedol fel GTFM yn cynnig gwybodaeth leol i bobl leol. Yn aml, mae’r rhaglenni’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, gwybodaeth gyfredol a gwyobdaeth sy’n berthnasol ac mae'r gwrandawyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd a lle mae’n digwydd ar lefel leol.
“Hefyd, gall yr orsaf leol fod yn droed yn y drws i bobl sydd â’u bryd ar fod yn gyflwynwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y cyfryngau ac mae’n dda gennyf glywed bod oddeutu 80 o wirfoddolwyr yn cymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael yn sgil gorsaf radio GTFM.
“Mae GTFM yn enghraifft wych o gyllid Cymunedau yn Gyntaf yn cyflawni i bobl leol.”
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella amodau byw a chreu cyfleoedd i bobl sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.











