Wrth annerch y digwyddiad, anogodd y Gweinidog bawb i gofrestru er mwyn cymryd rhan yn y tair pleidlais a gynhelir eleni. Dywedodd:
"Diolch i dechnolegau modern mae cymaint o wahanol ffyrdd y gallwn gyfathrebu â phobl Cymru a’u hannog i gofrestru a bwrw eu pleidlais.
"Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae'r bobl yn penderfynu pwy sy'n cael llywodraethu’r wlad. Yn 2011, byddant hefyd yn cael penderfynu drostynt eu hunain ynghylch materion democrataidd.
"Mae pob pleidleisiwr yn gyfartal yn y broses hon - nid oes gan bobl cyfoethog, addysgedig neu abl bleidlais ychwanegol. Dewch inni wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i gofrestru ac yn gallu pleidleisio. Mae gennym wledd o gyfleoedd dros y flwyddyn a hanner nesaf; rhaid i ni wneud y mwyaf ohonynt."
Soniodd y Gweinidog hefyd am bwysigrwydd chwalu'r rhwystrau a allai atal pobl anabl rhag pleidleisio. Dywedodd:
"Ysgrifennais at bob awdurdod lleol yng Nghymru y llynedd yn gofyn iddynt adolygu eu gorsafoedd pleidleisio er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd pawb.
"Rydym wedi cael digon o amser i baratoi a sicrhau bod y bobl hynny sy'n cael anhawster pleidleisio oherwydd anabledd, gwendid neu fath arall o anfantais, yn gallu bwrw eu pleidlais os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl ddydd Gwener diwethaf, ac rwy'n gobeithio na fyddaf yn clywed bod unrhyw un wedi methu â phleidleisio oherwydd eu hanabledd."
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
"Mae 2011 yn flwyddyn bwysig i ni i gyd yng Nghymru. Bydd gofyn i ni ddewis pwy sy'n ein cynrychioli ni yn y Senedd a hefyd a ddylai'r cynrychiolwyr etholedig hynny gael mwy o bwerau i wneud cyfreithiau yng Nghymru.
"Mae’n bwysicach nag erioed cymryd rhan mewn democratiaeth ac rydym am wneud yn siwr bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud.
"Bydd y digwyddiad a gynhelir heddiw yn ystyried y rhwystrau a wynebir ynghyd â ffyrdd o annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan a llywio dyfodol datganoli yn ein gwlad."











