Mae’r Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol yn rhoi cyngor a chefnogaeth i sefydliadau sy’n helpu pobl yng Nghymru sy’n cael trafferthion ariannol. Mae cael help gyda gwasanaethau ariannol fel cyfrifon banc trosglwyddadwy a thaliadau debyd uniongyrchol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i reoli arian personol a helpu pobl i beidio â mynd i ddyled.
Hefyd, mae’r Hyrwyddwyr yn gweithio gydag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i fynd i’r afael â’r broblem o fenthycwyr arian didrwydded a benthyg arian yn anghyfreithlon. Maent yn codi ymwybyddiaeth o beryglon benthycwyr arian didrwydded ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr. Mae’r Hyrwyddwyr hefyd yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ffynonellau benthyg arian fforddiadwy eraill, fel undebau credyd.
Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ymchwiliad i gynhwysiant ariannol ac effaith addysg ariannol yng Nghymru. Croesawyd yr ymchwiliad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, a dywedodd heddiw:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant am gynnal yr adolygiad hwn. Bydd yn ein galluogi i ddatblygu’r maes gwaith pwysig hwn ymhellach.”
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i helpu pobl i reoli eu harian, beth bynnag yw eu hincwm, eu statws cymdeithasol neu eu gallu. Ym mis Gorffennaf 2009, lansiodd Llywodraeth y Cynulliad Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gyntaf Cymru sef ‘Mae Pawb yn Cyfrif’. Mae’r strategaeth yn ceisio gwella gallu pobl i gael hyd i gyngor ar ddyled ac arian, sicrhau bod opsiynau benthyca a chynilo fforddiadwy ar gael iddynt yn ogystal â hybu gallu pobl i reoli eu harian.
Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno nifer o gynlluniau i helpu pobl i reoli eu harian. Er enghraifft, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud y canlynol:
- Mae wedi cyfrannu £3 miliwn er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Treth y Cyngor a Budd-daliadau Tai er mwyn ehangu’r ffocws i deuluoedd sydd â phlant yn ogystal â phensiynwyr.
- Cynnwys addysg ariannol yng nghwricwlwm craidd ysgolion Cymru. Erbyn hyn, gall disgyblion mor ifanc â saith oed ddysgu sut i reoli eu harian fel rhan o’r cwricwlwm mathemateg a’r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol.
- Yn ddiweddar, cyfrannodd Llywodraeth y Cynulliad, ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd, £3.4 miliwn er mwyn helpu i gyflawni ymrwymiad Cymru’n Un sef parhau i ddatblygu’r undebau credyd. Mae’r arian hwn wedi helpu i sefydlu undebau credyd ledled Cymru ac erbyn hyn, mae nifer y bobl sydd wedi ymaelodi ag undebau credyd wedi codi i 50,000.
- Mae wedi cyflwyno Cynllun Adfeddiannu Morgais gwerth £36.5 miliwn sy’n galluogi cymdeithasau tai i brynu cartrefi pobl sy’n wynebu adfeddiannu oherwydd ôl-ddyledion morgais.
- Mae wedi cyfrannu £747,000 er mwyn sefydlu llinell gymorth i Ganolfannau Cyngor ar Bopeth Cymru fel ei bod hi’n haws i bobl hawlio budd-daliadau pwysig ac i gael cyngor ar ddyled.
- Mae wedi cyfrannu £500,000 ychwanegol i godi ymwybyddiaeth o’r budd-daliadau sydd ar gael i deuluoedd sydd â phlant anabl.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi bod yr arian hwn ar gael i dîm Hyrwyddwyr Cymru fel y gallant barhau â’r gwaith rhagorol y maent yn ei wneud. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i’w helpu i reoli eu harian ac i ddod allan o ddyled.
“Mae ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr yng Nghymru trwy gynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion ariannol a rhoi cyngor iddynt ar sut i osgoi cael eu hunain mewn trafferthion tebyg eto.
“Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn y maes hwn ond mae gennym lawer o waith i’w wneud eto. Mae helpu pobl i ddysgu sgiliau a chael hyder i reoli eu harian yn arbennig o bwysig yn yr amodau economaidd sy’n ein hwynebu heddiw.
“Hoffwn weld pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at nwyddau ariannol fforddiadwy a bod â’r hyder a’r gallu i’w defnyddio’n gyfrifol. Rydym am i bobl allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol gyda rhywfaint o sicrwydd. Mae’n rhaid iddynt gael yr wybodaeth a’r sgiliau priodol fel y gallant osgoi mynd i drafferthion ariannol a gwybod lle i fynd i gael cymorth os oes angen cymorth arnynt."











