Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwneud y Fro yn fwy diogel

Ymwelodd Gweinidog Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant, â Phartneriaeth Bro Ddiogelach yn y Barri i weld safle'r bartneriaeth atal troseddu sydd newydd ei ailwampio yng Ngorsaf Dân y dref.
Dydd Mercher 26 Ionawr 2011

Mae'r Bartneriaeth yn gweithio ar draws Bro Morgannwg i atal pob math o droseddu ac anrhefn fel cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau a throseddu casineb. Mae hefyd yn rhedeg nifer o raglenni ieuenctid ac yn gweithredu prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r ofn troseddu sydd ar bobl er mwyn helpu'r bobl leol i deimlo'n ddiogel yn eu cartref a'u cymuned.

Diolch i'w hystafell sydd newydd ei hailwampio, mae'r Bartneriaeth yn helpu nifer o gyrff i gynnal gweithdai atal troseddu bob dydd.

Meddai Carl Sargeant:

"Fe all pob math o droseddu ddifetha cymuned, felly mae'n bwysig bod gan gyrff fel Partneriaeth Bro Ddiogelach y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd at wraidd y problemau.

"Mae'r ystafell newydd yn lle gwych i grwpiau gwahanol ymgynnull i edrych ar ffyrdd o ddatrys y problemau sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymuned. Hyd yn hyn, mae grwpiau fel y grŵp gwarchod cymdogaeth lleol a'r uned cyfeirio disgyblion wedi manteisio ar y cyfleusterau, a gobeithio y bydd llawer mwy yn elwa ar yr hyn sy'n cael ei gynnig.

"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl gymdogaethau yn lleoedd diogel i fyw, ac mae'n rhedeg nifer o fentrau i fynd i'r afael â materion ynghylch diogelwch cymunedol. Rydyn ni'n cefnogi Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol ledled Cymru, ac rydyn ni hefyd yn gweithredu Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cyfiawnder cymdeithasol Gwella gwasanaethau cyhoeddus Tai a chymunedau

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 26 Ionawr 2011 Gwasanaethau cyhoeddus Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i