Nod y ganolfan, ‘1 Info’, yw rhoi gwybodaeth ar faterion sy’n ymwneud â thrais yn y cartref, gan gynnwys cynnig cyngor cyfreithiol, help gyda symud neu broblemau tai, a chyngor ar ddyledion, budd-daliadau, dychwelyd i’r gwaith, iechyd, a phroblemau cyffuriau ac alcohol. Mae’r adeilad wedi’i ddylunio i sicrhau bod ymwelwyr pryderus yn gallu siarad ag arbenigwyr mewn amgylchiadau diogel, cyfforddus a chyfrinachol.
Meddai’r Gweinidog,
“Dw i’n falch o gael y cyfle i fod yma heddiw i agor y Siop-un-Stop hon sy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr trais yn y cartref. Dw i’n gwybod bod pawb sy’n rhan o’r prosiect yn teimlo’n llawn cyffro eu bod yn gweithio o adeilad penodol sy’n addas at y diben. Mae’r adeilad hwn, sydd â chaffi rhyngrwyd defnyddiol yn rhan ohono, mewn lleoliad gwych.
“Mae ansawdd y gwaith ailwampio yn uchel iawn, a dw i’n siŵr bod pawb yn cytuno bod y gallu i ddarparu gwasanaethau mewn amgylchedd croesawgar fel hwn yn hollbwysig o ran parchu dioddefwyr trais yn y cartref a diogelu eu hurddas.”
Mae’r ganolfan wedi bod yn bosibl diolch i grant gwerth £108,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prynu’r adeilad a’i newid yn gaffi rhyngrwyd a siop. Hefyd rhoddwyd grant refeniw gwerth £20,000 yn 2010/11 ar gyfer cyflogi gweithiwr cymorth llawn amser.
Mae’r enw ‘1 info’ yn deillio o ffigurau a gafwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a oedd yn dangos bod un o bob pedair menyw yn dioddef trais yn y cartref rywbryd yn ystod eu hoes.
Mae’r siop yn cael ei staffio a’i chefnogi gan weithwyr proffesiynol gofalgar a staff sydd wedi’u hyfforddi’n benodol mewn trais domestig er mwyn iddynt allu darparu’r cyngor a chymorth priodol i’r rheini sydd eu hangen. Bob wythnos, bydd ‘1 info’ yn cynnal cymorthfeydd mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys gyda’r heddlu, cyfreithwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, pobl sy’n cynghori ar ddyledion a budd-daliadau ac ati, er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ychwanegol yn y gymuned.
Hefyd, manteisiodd y Gweinidog ar y cyfle i bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thrais yn y cartref drwy sicrhau bod y gyllideb ar gyfer gwasanaethau craidd yn y maes hwn yn cael ei hamddiffyn rhag toriadau yn 2010/11 a 2011/12.
Meddai,
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn parhau’n benderfynol o sicrhau bod cymorth ar gael i ddioddefwyr trais yn y cartref yma yn Llanelli ac ym mhob rhan o Gymru, a hynny er gwaethaf yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.”











